
Mae cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023 bellach ar gau – diolch i’n tîm anhygoel o redwyr am eu holl waith caled a’u cefnogaeth!
Ydych chi wedi’ch ysbrydoli i redeg yn 2024?
Nodwch eich diddordeb isod i redeg dros Cymorth i Ferched Cymru a gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i oroeswyr camdriniaeth a thrais ar hyd a lled Cymru. Pan fydd cofrestru ar gyfer 2024 ar agor, fe fyddwn ni’n cysylltu gyda rhagor o fanylion.
Bydd ein rhedwyr yn derbyn:
- Fest redeg Cymorth i Merched Cymru pan fyddwch yn codi £100
- Pecyn cymorth ac adnoddau codi arian i’ch helpu i gyrraedd eich nodau
- Cylchlythyrau tîm rheolaidd a sgyrsiau grŵp i ysbrydoli ac ymgysylltu
- Cefnogaeth ymroddedig gan y tîm codi arian, bob cam o’r ffordd.
Cofrestrwch eich diddordeb yma!






Byddwch yn ein helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru; darparu’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn genedlaethol 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn ein cymunedau; ymgyrchu dros bolisïau a gwasanaethau effeithiol; a darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol.
Darllenwch am brofiadau Kirsty o redeg Hanner Marathon Caerdydd yma.