Nid oes unrhyw ddiffinad y mae cytundeb arno yn gyffredinol o drais ar sail ‘anrhydedd’. Caiff ei ddefnyddio yn gyffredinol i gyfeirio at droseddau gan gyflawnwyr sy’n tybio eu bod yn diogelu neu’n amddiffyn ‘anrhydedd’ teulu neu gymuned. Mae’r troseddau hyn yn aml yn cynnwys mathau o gam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gall ‘anrhydedd’ o’r fath gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau ystod o ymddygiadau camdriniol, fel arfer yn erbyn menywod a merched. Serch hynny mae’r rhain yn groes i hawliau dynol ac ni ddylent gael eu hesgusodi am unrhyw reswm.
Mathau o’r hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’
Gall yr hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’ gynnwys:
- Priodas dan orfod
- Cam-drin domestig
- Llofruddiaeth neu fwriad i lofruddio
- ‘Cosbau’ corfforol, er enghraifft ymosodiadau asid
- Amddifadu rhyddid neu annibyniaeth
- Carcharu domestig
- Herwgipio neu herwgydio goroeswr neu aelodau o’r teulu
- Anffurfio organau cenehedlu benywod
- Aflonyddu rhywiol neu drais rhywiol
- Gwrthod mynediad at blant neu deulu
- Gorfodaeth, er enghraifft, i symud neu fyw mewn ardal neu wlad benodol
- Bygythiadau i ladd neu niweidio
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.