Hygyrchedd

Oes angen help arnoch chi i ddarllen ein gwefan?

Rydyn ni wedi ychwanegu bar offer ReachDeck i’n gwefan. Os ydych chi’n cael trafferth darllen, os oes gennych chi nam ar eich golwg, neu os yw’n well gennych chi ddarllen yn eich iaith eich hun, gall bar offer ReachDeck helpu.

Rhowch gynnig arni eich hun…

Cliciwch ar fotwm y person llwyd ar waelod ochr chwith holl dudalennau ein gwefan. Bydd hyn yn lansio bar offer ReachDeck. Fe welwch chi ReachDeck yn docio ar frig eich sgrin. Nawr cliciwch ar yr eicon ‘llaw’ cyntaf ar y bar offer hwnnw a gallwch hofran pwyntydd eich llygoden dros unrhyw destun ar ein gwefan i’w glywed yn cael ei ddarllen ar goedd.

Sut mae bar offer ReachDeck yn helpu?

Bydd bar offer ReachDeck yn eich helpu i ddarllen a chyfieithu’r cynnwys ar ein gwefan. Mae ei nodweddion yn cynnwys:

  • Testun-i-leferydd: mae’n bosibl clicio neu ddewis unrhyw destun i’w glywed yn cael ei ddarllen ar goedd
  • Cyfieithu: mae’n cyfieithu cynnwys i dros 100 o ieithoedd
  • Chwyddo testun: mae’n chwyddo testun a gallwch ei glywed yn cael ei ddarllen ar goedd
  • Cynhyrchu MP3: mae’n trosi testun o’ch dewis yn ffeil sain MP3
  • Masg sgrin: mae’n bosibl lleihau’r golau llachar gyda mwgwd wedi’i dintio
  • Symleiddio tudalen we: mae’n bosibl gwaredu unrhyw anrhefn o’ch sgrin er mwyn dangos y prif destun yn unig
  • Geiriadur lluniau: mae’n dangos lluniau sy’n gysylltiedig â thestun o’ch dewis ar y dudalen.

Oes angen help arnoch chi? Texthelp yw’r ateb i chi.

Ewch i wefan cymorth pwrpasol Texthelp i ddod o hyd i lawer o erthyglau defnyddiol am ReachDeck.