Cefnogwch ni

Ni ddylai neb wynebu cam-drin domestig nac unrhyw fath arall o drais. Mae angen iddo ddod i ben.

Mae menywod ledled Cymru wedi profi mwy o achosion o bob math o drais a cham-drin oherwydd COVID-19 a’r argyfwng costau byw presennol.  Mae hyn wedi creu her enfawr i oroeswyr ac i bawb sy’n gweithio i’w cefnogi.

Gyda’ch help chi, gallwn barhau i atal y cam-drin hwn a chefnogi’r miloedd o oroeswyr ledled Cymru.

Gallwch chi ein cefnogi ni mewn ffordd sy’n addas i chi – gwneud rhodd, sefydlu rhodd reolaidd i Cymorth i Ferched Cymru, creu eich digwyddiadau codi arian eich hun, cymryd rhan yn ein hymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn, neu gyfrannu eitemau allweddol i’w rhannu gyda’n haelod-wasanaethau; mae pob cyfraniad yn mynd tuag at ailadeiladu bywydau menywod.

Os ydych chi’n awyddus i gefnogi ein gwaith ac am drafod eich syniadau, mawr neu fach, byddai ein tîm codi arian wrth eu bodd yn clywed gennych. Cysylltwch os gwelwch yn dda â [email protected].

Gallwch hefyd wneud rhodd neu ymweld â’r adrannau perthnasol isod.

 

Diolch am eich cefnogaeth.