Cefnogwr Sefydliadol

Mae trais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb a gall pawb wneud gwahaniaeth – felly gwnewch safiad heddiw.

 

Mae tri chwarter o’r menywod sy’n profi cam-drin domestig a thrais yn cael eu tragedu yn y gwaith – gan gynnwys aflonyddu dros y ffôn a phartneriaid camdriniol yn cyrraedd y gweithle yn ddi-rybdd, a thrais corfforol a rhywiol.

Mae ymchwil wedi dangos y canlynol:

  • Mae 21% o fenywod cyflogedig yn cymryd amser o’r gwaith oherwydd trais domestig.
  • Mae 53% o weithwyr sy’n cael eu cam-drin (o bob hunaniaeth rhywedd) yn colli o leiaf 3 diwrnod o’r gwaith bob mis.
  • Mae 1 o bob 3 menyw yn profi rhyw fath o drais a cham-drin.
  • Mae 2 fenyw yn cael eu lladd bob wythnos ar gyfartaledd yn Nghymru a Lloegr.

 

Beth yw Cefnogwr Sefydliadol?

Os ydych chi’n sefydliad, yn gangen, neu’n adran yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus neu’r sector preifat sydd wedi cymryd y cam ychwanegol o gefnogi a chymeradwyo gwaith achub bywyd Cymorth i Ferched Cymru, gallwch ddod yn Gefnogwr Sefydliadol. Fel Cefnogwr Sefydliadol, rydych chi’n addunedu i sefyll gyda goroeswyr ac yn gyfnewid am hynny rydym ni’n rhoi’r adnoddau, y cymorth a’r arweiniad priodol i chi gyflawni eich adduned yn effeithiol.

Fel Cefnogwr Sefydliadol byddwch yn derbyn:

  • Mynediad at wybodaeth ac adnoddau i’w rhannu gyda’ch staff i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i sicrhau eu bod yn gwybod ble i chwilio am gymorth pe bai ei angen arnyn nhw
  • Sesiwn hyfforddi hanner diwrnod am ddim ar gyfer hyd at 15 o bobl
  • Mynediad am ddim i weminarau, hyfforddiant a digwyddiadau dethol
  • Gostyngiad o 20% ar bob hyfforddiant pellach
  • Cymorth i ddatblygu eich polisi eich hun ar gyfer eich gweithle
  • Tanysgrifiad i’n cylchlythyr ar gyfer aelodau gyda chyfleoedd i gynnwys gwaith eich sefydliad
  • Cymorth gyda chodi arian
  • Defnydd o’n marc Cefnogwr Sefydliadol i’w arddangos gyda balchder
  • Cyfle i ddod yn Gefnogwr Sefydliadol y flwyddyn

Ffioedd Cefnogwyr Sefydliadol

Caiff ffioedd Cefnogwyr Sefydliadol eu hadnewyddu yn flynyddol. Bydd eich aelodaeth yn cychwyn ar y 1af o’r mis presennol os ydych yn cofrestru cyn y 15fed, neu ar y 1af o’r mis nesaf os ydych yn yn cofrestru ar, neu ar ôl, y 15fed.

Mae ffi trwydded brand o £10 wedi’i gynnwys yn y costau isod. (Mae’r telerau ac amodau i’w cael yn yr hysbysiad preifatrwydd)

Band A: Incwm blynyddol hyd at £100,000 £100
Band B: Incwm Blynyddol rhwng £100,000 a £250,000 £250
Band C:  Incwm Blynyddol rhwng £250,000 a £400,000 £400
Band D: Incwm Blynyddol rhwng £400,000 a £650,000 £550
Band E: Incwm Blynyddol rhwng £650,000 a £1 million £700
Band F: Incwm Blynyddol dros £1 miliwn £850

Cliciwch yma i gofrestru fel Cefnogwr Sefydliadaol

 

Amdanom ni

Ein dull gweithredu

Cymorth i Ferched Cymru yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. Rydym ni’n ymgyrchu o blaid gwelliannau polisi a gwasanaeth ac yn darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant yn eu cylch i oroeswyr, teuluoedd a chymunedau. Mae ein ffederasiwn o sefydliadau arbenigol yn darparu gwasanaethau achub bywyd ac ataliol i oroeswyr cam-drin. Rydym ni’n darparu Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol. Mae llais y goroeswr wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu byd lle mae menywod a phlant yn byw yn rhydd rhag cam-drin, trais rhywiol, a phob math o drais yn erbyn menywod a thrwy wneud hynny yn cyflawni annibyniaeth, rhyddid a gwaredigaeth rhag gormes.

Ein nod yw:

  • Sicrhau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei ddeall yn well, a’i herio a’i atal.
  • Sicrhau bod menywod a phlant yn cael perthnasoedd iach, diogel a chyfartal.
  • Sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn cael eu cryfhau a’u cefnogi i fodloni anghenion amrywiol yn effeithiol a lleihau effeithiau niweidiol trais.
  • Sicrhau bod goroeswyr yn gallu cael gafael ar gymorth cynnar sy’n adeiladu ar eu cryfderau, yn bodloni eu hanghenion ac yn gwella eu hiechyd a’u lles.
  • Sicrhau bod y wladwriaeth, asiantaethau a chymunedau yn cyflawni ymatebion mwy effeithiol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.
  • Sicrhau bod llywodraethau, asiantaethu a chymunedau yn atebol am gyflawni camau i newid gan fenywod a phlant.

Datganiad o Gymorth

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn sefydliad ffeministaidd, ac mae ein gwerthoedd wedi’u seilio ar ymrwymiad i hawliau dynol, gwrth-wahaniaethu a rhyddid rhag gormes.

Mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar y gwerthoedd canlynol:

Rydym ni’n ffeministaidd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth o brofiadau bywyd – rydym ni’n rhoi sylw i leisiau amrywiol, gan gydnabod bod hunaniaethau a phrofiadau bywyd gwahanol yn effeithio ar brofiadau unigolion o gam-drin, yn ogystal ag ar eu gallu i gael cymorth, diogelwch a chyfiawnder.

Rydym ni’n eiriol dros roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywd a merched ac rydym ni’n cydnabod ac yn herio gormes lluosog rhywiaeth, hiliaeth, rhagfarn ar sail dosbarth, homoffobia, rhagfarn ar sail oed, rhagfarn ar sail gallu, a thrawsffobia sy’n atal cyflawni cyfiawnder cymdeithasol

Rydym ni’n hyrwyddo uniondeb – rydym ni’n atebol, ac yn gosod lleisiau goroeswyr a’u profiadau bywyd wrth galon ein gwaith. Rydym ni’n annog parch, tryloywder a dysgu o brofiad, rydym ni’n herio camddefnyddio pŵer ac yn hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol ym mhopeth a wnawn.

Rydym ni’n cydweithio – rydym ni’n gweithio gyda goroeswyr, gwasanaethau arbenigol, sefydliadau eraill, unigolion a chymunedau, i feithrin gallu gwasanaethau ac i roi tystiolaeth a chyflawni’r hyn sy’n gweithio o ran atal pob math o drais yn erbyn menywod a merched.

Rydym ni’n grymuso – rydym ni’n eiriol dros ddull sy’n seiliedig ar hawliau fel y gall pob menyw a phlentyn gyflawni eu llawn botensial, ac rydym ni’n hyrwyddo gwasanaethau sydd wedi’u harwain gan ac ar gyfer menywod/ grwpiau lleiafrifol fel rhai sy’n hanfodol i fodloni anghenion a chyflawni rhyddid cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol rhag patriarchaeth, hiliaeth a gormes arall.  

Rydym ni’n trawsnewid – rydym ni wedi ymrwymo i herio anghydraddoldebau a gwahaniaethu, i gyfuno gwasanaethau o ansawdd uchel ac ymgyrchu dros newid cymdeithasol, ac adeiladu mudiad sy’n rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched ac sy’n rhyddhau menywod a merched rhag gormes lluosog sy’n croestorri, a hynny er lles pawb.

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, rydym ni’n canolbwyntio ar:

  1. Atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol rhag digwydd yn y lle cyntaf.
  2. Sicrhau darpariaeth o wasanaethau o ansawdd ar gyfer goroeswyr, sef gwasanaethau sy’n adeiladau ar gryfderau, yn bodloni anghenion ac yn lleihau effeithiau niweidiol cam-drin dros amser.
  3. Creu partneriaethau effeithiol gyda goroeswyr, gwasanaethau arbenigol ac eraill er mwyn cryfhau ein mudiad i gyflawni newid sy’n para.

Cliciwch yma i gofrestru fel Cefnogwr Sefydliadol