Hanner Marathon Caerdydd 2024

Ymunwch â Thîm Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 6 Hydref 2024.

Cymerwch ran yn yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU a gwnewch wahaniaeth go iawn i oroeswyr camdriniaeth a thrais ledled Cymru.

Bydd ein rhedwyr yn derbyn:

  • Fest redeg Cymorth i Ferched Cymru am ddim pan fyddwch chi’n codi £100.
  • Pecyn cymorth ac adnoddau codi arian digidol i’ch helpu i gyrraedd eich nodau.
  • Cylchlythyrau tîm rheolaidd a sgyrsiau grŵp i’ch ysbrydoli a’ch cymell drwy’r cyfan.
  • Cefnogaeth ymroddedig gan ein tîm codi arian bob cam o’r ffordd.

Lleoedd elusennol

I ymuno â thîm Cymorth i Ferched Cymru gydag un o’n lleoedd elusennol, gofynnwn i chi ymrwymo i darged codi arian o £250 o leiaf. Bydd angen i chi hefyd wneud rhodd o £10 fel blaendal i sicrhau eich lle a fydd yn cyfrif tuag at eich targed cyffredinol.

 Cofrestrwch yma am le elusennol!

Oes gennych chi eich lle eich hun?

Os oes gennych chi eich lle eich hun eisoes a hoffech chi redeg er budd Cymorth i Ferched Cymru, llenwch y ffurflen gofrestru isod i ymuno â’n tîm os gwelwch yn dda.

Cofrestrwch yma i ymuno â’n tîm!

 

Byddwch yn ein helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru; darparu’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn genedlaethol 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn ein cymunedau; ymgyrchu dros bolisïau a gwasanaethau effeithiol; a darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol.

Darllenwch am brofiadau Kirsty o redeg Hanner Marathon Caerdydd yma.