What is violence against women and girls?
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn derm ambarél sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw fath o gam-drin sydd wedi’i gyfeirio at fenywod a merched.
Gall trais yn erbyn menywod a merched gynnwys cam-drin domestig; treisio a thrais rhywiol; stelcio; priodas dan orfod; yr hyn sy’n cael ei alw’n drais ar sail anrhydedd; anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM); masnachu pobl a cham-fanteisio rhywiol gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw; ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac mewn bywyd cyhoeddus.
Mae’r term Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn ein helpu ni i weld natur anghymesur y mathau hyn o gam-drin ac yn ein helpu i ddeall bod y cam-drin hwn wedi’i gyfeirio at fenywod a merched am eu bod nhw’n fenywod a merched.
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn achos a chanlyniad anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion yn ein cymdeithas.
Pam canolbwyntio ar drais gan ddynion yn erbyn menywod?
Gall trais a cham-drin effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys dynion a bechgyn. Serch hynny, mae’r dystiolaeth yn dangos bod dros 90%(1) o drais a cham-drin yn cael ei brofi gan fenywod a merched dan ddwylo dynion. Mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar yr anghymesuredd hwn fel y gallwn ni herio a newid agweddau sy’n caniatáu i drais gan ddynion yn erbyn menwyod a merched barhau.
Pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched gallwn adnabod sut mae pŵer a rheolaeth yn gweithredu mewn perthnasoedd agos neu deuluol, a sut mae hwn yn niwediol i ddynion a menywod a merched a bechgyn.
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn ymrwymo i gefnogi menywod, dynion, merched a bechgyn sy’n profi trais a cham-drin; i herio pawb sy’n cyflawni trais a chamdriniaeth, ac i’w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Rydym ni’n sicrhau ein bod ni’n ymateb mewn ffordd sy’n sensitif i drawma, sy’n gosod anghenion goroeswyr yn gyntaf, sy’n helpu goroeswyr i weld eu cryfderau eu hunain ac sy’n canolbwyntio ar annibyniaeth a rhyddid hirdymor.
For support
Anyone affected by these forms of violence and abuse should be able to access help and support when they need it and every case should be taken seriously.
The Live Fear Free Helpline is available 24 hours a day, 7 days a week for women, children and men experiencing domestic abuse, sexual violence or other forms of violence against women.
- Call 0808 80 10 800
- Email [email protected]
- Text 07860 077333
- Visit https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free to use our webchat service.
¹ Nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2020 fod 92% o ddiffinyddion mewn erlyniadau yn ymwneud â cham-drin domestig yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn ddynion. Mae tystiolaeth bellach gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn dangos natur anghymesur o ryweddol y troseddau hyn.