
Mae trais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb.
Gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth a lleihau, atal a rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru…
Beth allech chi ei wneud?
- Siaradwch â ni am eich cynlluniau codi arian. Gallech gynnal gig rhithwir, noson gwis neu ddigwyddiad crefftau.
- Codwch arian a sefydlu tudalen codi arian ar gyfer gweithgaredd o’ch dewis.
- Beth am gofrestru ar gyfer digwyddiad chwaraeon, neu ofod elusennol yn Hanner Marathon Caerdydd?
- Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd codi arian rheolaidd. Dewch i wybod am ein hymgyrch ddiweddar, Mae Menywod Cegog yn Newid Bywydau. Bydd ein hymgyrch 16 Diwrnod o Actifiaeth yn ôl fis Tachwedd eleni.
Mae unrhyw beth yn bosibl – byddwch mor greadigol ag y dymunwch!
Gallwch wneud rhywbeth ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu gydweithwyr, neu gyda’ch grwpiau cymunedol lleol.
Sefydlwch dudalen ar ein hyb newydd ar gyfer codi arian!
Sefydlwch dudalen Just Giving yma >
Mae ein tîm codi arian yn [email protected] wrth law i drafod cynlluniau, helpu i ddatblygu syniadau, a darparu adnoddau.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, felly cysylltwch heddiw!