Ein Heffaith yn 2022/23

How we're creating change that lasts

Pam rydyn ni'n bodoli?

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn bodoli oherwydd bod byd heb drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV) yn bosibl, a bydd yn cymryd ymdrech ar y cyd i’w gyflawni.

Mae ein gwaith yn ymwneud â chysylltu’r dotiau rhwng goroeswyr, gwasanaethau cymorth, cymunedau, sefydliadau a llywodraethau.

Rydym ni’n sefydliad ffeministaidd croestoriadol. Mae ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn seiliedig ar ymrwymiadau i hawliau dynol, gwrth-wahaniaethu a rhyddid rhag gormes.

Rydym ni’n rhan o fudiad rhyngwladol a ffederasiwn y DU o bedwar chwaer-sefydliad, ond rydym ni’n annibynnol, yn ymreolaethol ac yn canolbwyntio ar Gymru.

Mae’r frwydr i ddod â VAWDASV i ben yng Nghymru yn unigryw, oherwydd bod ei hysgogiadau gwleidyddol yn cynnwys pwerau datganoledig ac heb eu datganoli.

Rydym ni’n bodoli i sicrhau bod gan oroeswyr a gwasanaethau arbenigol yng Nghymru lais ar bob lefel o lywodraeth.

Rydyn ni wir yn sefydliad Cymru gyfan. Mae ein 20 aelod-sefydliad a’n llinell gymorth Byw Heb Ofn yn rhoi cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor uniongyrchol i oroeswyr VAWDASV.

Rydym ni’n bodoli i sicrhau bod goroeswyr ledled Cymru yn cael y cymorth cywir pan fyddan nhw ei angen.

Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod gan bob un o’n haelodau fynediad cyfartal at adnoddau a chyllid, a chyfle cyfartal i ddylanwadu ar y polisïau sy’n effeithio ar eu gwaith.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Dechreuodd ein gwaith yng Nghymru dros 40 mlynedd yn ôl. Eleni oedd blwyddyn olaf ond un ein strategaeth, ‘Still We Rise‘, strategaeth sy’n seiliedig ar yr arbenigedd a ddatblygwyd dros y cyfnod hwnnw.

Mae heriau tirwedd ôl-bandemig ac argyfwng brathog costau byw wedi bod yn enfawr, ond mae ein nodau’n aros yr un fath: atal camdriniaeth, darparu gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth â goroeswyr, gwasanaethau arbenigol a sefydliadau eraill.

Ein nodau strategol

Beth sydd nesaf?

Wrth i ni ddod i ddiwedd ein strategaeth bum mlynedd, gwyddom ein bod yn wynebu dyfodol anodd o’n blaenau, gan fod y galw ar wasanaethau yn parhau i fod yn uchel ac mae cynaliadwyedd cyllido gwasanaethau arbenigol wedi cyrraedd pwynt argyfwng.

Mae ein hymroddiad i ddileu VAWDASV yn parhau, a byddwn yn parhau i edrych ymlaen wrth i ni barhau â’n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r materion allweddol sy’n ein hwynebu, i gynrychioli gwasanaethau arbenigol Cymru hyd eithaf ein gallu a sicrhau bod lleisiau goroeswyr bob amser yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith.

Bydd angen cefnogaeth bellach gan y llywodraeth, gan y gymuned ac unigolion i gyflawni ein nod yn y pen draw o ddod â VAWDASV i ben, ond credwn fod hyn yn bosibl.