Newid sy’n Para

Mae Newid Sy’n Para yn ddull newydd sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n cael ei arwain gan anghenion, sy’n cynorthwyo goroeswyr pob math o drais yn erbyn menywod, a’u plant, i feithrin gwydnwch sy’n arwain at annibyniaeth.

Ein dull gweithredu:

  • Gwrando – gwrando ar oroeswyr bob amser, a gosod eu hanghenion wrth wraidd y gwaith
  • Gofyn a Gweithredu – holi’r cwestiynau cywir yn ddiogel a gweithredu’n briodol
  • Cymorth arbenigol – gwybod pryd a sut i atgyfeirio i’ch gwasanaeth arbenigol lleol
  • Dulliau Gweithredu – darparu gweithdrefnau, rolau, gwybodaeth a hyfforddiant ar draws asiantaethau
  • Annibyniaeth a rhyddid parhaus – cydweithio i sicrhau dyfodol annibynnol i oroeswyr.

Darllenwch grynodeb o ddull gweithredu Newid sy’n Para (PDF)

Read the Change That Lasts Evaluation report

 

Pam mae hyn yn bwysig?

I lawer o fenywod, pan fyddan nhw’n datgelu am y tro cyntaf eu bod nhw’n cael eu cam-drin, nid ydyn nhw’n cael ymateb cefnogol. Nid oes neb yn ymgynghori â nhw ynglŷn â’r ffordd orau o helpu i’w gwneud yn fwy diogel, er nad oes neb yn adnabod y cyflawnwr yn well nag y maen nhw mewn gwirionedd.

Yn aml caiff menywod sy’n datgelu cam-drin eu hasesu gan weithwyr proffesiynol am risg, sydd wedyn yn pennu pa lefel o gymorth sy’n cael ei roi, ac yn aml caiff y rhai sy’n cael asesiad lefel is o risg gynnig lefel is o gymorth. Gall menywod sy’n cael eu pennu yn ‘risg is’ fod yn gaeth i gam-drin heb y cymorth cywir i ddianc yn barhaol rhag y cam-drin hwnnw.

Rydym ni am newid hynny a sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig ar sail anghenion menyw a bod hynny’n adeiladu ar ei chryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddi. Gyda’r hawliau hyn, gall adeiladu ei hannibyniaeth, adfer o’r trawma mae hi wedi’i brofi a chael ei bywyd yn ôl.

 

Creu Newid sy’n Para

Mae’r degawdau rydyn ni wedi’u treulio yn gweithio gyda goroeswyr, a thystiolaeth ymchwil, wedi dysgu ffordd well i ni. Drwy wrando ar fenywod gallwn ni ddarparu cymorth yn gynt a gwneud yn siŵr fod ei effeithiau yn para.

Mae ‘Newid sy’n Para’ yn ddull gweithredu newydd sy’n gosod y goroeswr wrth ei wriadd ac sy’n adeiladu’r ymatebion o gwmpas ei hanghenion hithau a’r cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddi.

Yn rhy aml y gred yw bod y dull gweithredu hwn yn rhy gymhleth ac yn rhy ddrud. Felly i’w wneud yn gliriach rydyn ni wedi creu ffeithluniau, sy’n mynegi siwrnai’r menywod hyn, a’r siwrnai y gallent fod wedi’i dilyn. Mae’r rhain yn dangos y gost enfawr, mewn termau dynol ac ariannol, o beidio â gwrando ar fenywod ac ymateb i’w hanghenion.

Rydyn ni am barhau i eirioli am ymateb i bob math o drais yn erbyn menywod sy’n gosod menywod wrth ei wraidd.

Pa fath o fodel yw hwn?

 

Mae ‘Newid sy’n Para’ yn cynnwys 3 maes, sydd, os ydy’r 3 yn gweithio gyda’i gilydd, yn gallu:

darparu’r ateb priodol i oroeswyr lle bynnag a phryd bynnag maen nhw’n dewis rhannu eu profiad;

sicrhau bod gwasanaethau’n gallu adnabod cam-drin yn gynt a’u bod yn ymwybodol o sut i gyfeirio at gymorth arbenigol;

darparu cymorth arbenigol i oroeswyr sy’n bwrpasol i’w hanghenion, yn adeiladu ar eu cryfderau ac wedi’i lywio gan drawma.

Y 3 maes yw:

Prosiectau sy’n cael eu hariannu gan Newid sy’n Para

Yn 2017-18 llwyddodd Cymorth i Ferched Cymru, mewn partneriaeth â Women’s Aid (Lloegr), i dreialu llinyn ‘Gofyn i fi’ o brosiect ‘Newid sy’n Para’ ym Mhowys, gyda chefnogaeth lawn ein Canolfan Argyfwng Teulu ym Maldwyn a Calan DVS.

Gallwch weld yr effaith yma.