Plant a Phobl Ifanc

Gyda chymorth plant a phobl ifanc ledled Cymru, rydym ni wedi datblygu adnoddau i ategu ein dull gweithredu Newid Sy’n Para sy’n sicrhau eich bod chi a’ch anghenion yn ganolog i bopeth rydym ni’n ei wneud. Gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddeall ein gwaith yn well a dangos i chi ble allwch chi fynd am gymorth os bydd ei angen arnoch chi. Cofiwch, dylai unrhyw gymorth rydych chi’n ei dderbyn eich gosod chi a’ch anghenion yn gyntaf, a rhaid i weithwyr proffesiynol gymryd amser i ddarganfod beth sydd fwyaf pwysig i chi.

Angen help?

Adnoddau

Ydych chi erioed wedi meddwl sut i gadw’n ddiogel ar-lein?

Yn yr adran hon byddwn yn trafod pynciau fel polareiddio, cael perthynas ar-lein, meithrin perthynas amhriodol, swyno drwy dwyll, a thrais yn seiliedig ar ddelweddau. Byddwn hefyd yn rhoi awgrymiadau i chi sy’n dangos sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Hefyd, byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallwch chi a phlant eraill ledaenu’r neges am y pynciau pwysig hyn.

Powerpoint diogelwch ar-lein

Hoffech chi glywed mwy am berthnasoedd?

Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddeall sut i gael perthynas ddiogel, iachus a hapus, a gwybod os yw perthynas yn troi’n afiach. Byddwch yn dysgu am ymddygiad rheolaethol a sut i’w adnabod, yn ogystal â sut i osod ffiniau mewn perthynas. Byddwch yn dysgu sgiliau ynghylch cydsyniad a’r gyfraith a sut y gallwch gymryd rhan yn eich cymuned a rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Ac wrth gwrs, gallwn roi arweiniad i chi ar ble i ddod o hyd i gymorth os oes angen.

Powerpoint perthnasoedd

 

Ydych chi wedi clywed am wreig-gasineb?

Yn yr adran hon byddwn yn clywed beth yw gwreig-gasineb a sut mae’n gysylltiedig â chredoau rhywiaethol ac ymddygiadau eithafol. Byddwn yn trafod patriarchaeth a sut mae’n effeithio’n negyddol ar ferched, bechgyn a phobl ifanc sy’n uniaethu’n drawsryweddol, anneuaidd, cisryweddol, rhyweddhylifol, a niwtral o ran rhywedd. Byddwn hefyd yn trafod gwrywdod gwenwynig a’r ffigurau dylanwadol a all fod yn hyrwyddo’r ymddygiadau niweidiol hyn ymhlith eich cyfoedion a chi. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am gyfraith troseddau casineb a gobeithio y bydd hyn yn eich grymuso chi a’ch ffrindiau i ddeall eich hawliau a’ch diogelu eich hun.

Powerpoint gwreig-gasineb

Hoffech chi wneud y byd yn lle gwell?

Yn y modiwl hwn, byddwn yn trafod sut y gallwch chi a phobl ifanc eraill ddod at eich gilydd i greu’r byd yr hoffech chi fyw ynddo. Byddwn yn siarad am actifiaeth a pham ei fod yn bwysig ar gyfer gwneud pethau’n well. Byddwn yn edrych ar enghreifftiau cŵl o actifiaeth a sut y gallwch ddechrau drwy godi llais dros newid. Byddwch yn dysgu am eich hawliau wrth brotestio. A byddwn yn siarad am ofalu amdanoch eich hun wrth fod yn actifydd yn eich cymuned.

Powerpoint actifiaeth

Hoffech chi allu codi llais dros bobl eraill?

Byddwch yn dysgu mwy am ymyrraeth gwyliedydd yn y modiwl hwn. Byddwch yn gallu adnabod ymddygiad problematig, dysgu mwy am yr amrywiol ffyrdd i dorri ar draws, ac yn bwysicaf oll, dysgu sut i fod yn wyliedydd gweithredol. Byddwch hefyd yn gallu meithrin y sgiliau, y technegau a’r hyder i ymyrryd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Powerpoint ymyrraeth gwyliedydd

Ydych chi wedi clywed am VAWDASV?

Yn yr adran hon, byddwch yn dysgu am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a’r gwahanol ffyrdd mae hyn yn digwydd. Byddwn yn trafod pwy mae hyn yn effeithio arnyn nhw a phwy all fod yn gyfrifol am achosi niwed. Byddwn hefyd yn edrych ar stereoteipiau rhywedd a sut y gall y rhain fod yn niweidiol i chi a phlant a phobl ifanc eraill. Byddwn hyd yn oed yn gofyn beth ydych chi’n meddwl am VAWSASV a sut y gallwch sefyll yn erbyn niwed yn seiliedig ar rywedd.

Pecyn trafod VAWDASV

Note to professionals:  For quality control purposes, the resources available on this page have been locked to prevent editing however, the “read only” versions are readily available for you to download. If you would like to edit the resources to ensure that they are better suited to meet the needs of your cohort of young people, please contact: [email protected] to request the password.