Angen cymorth?

Os ydych chi, aelod o’r teulu, ffrind neu rywun rydych chi’n pryderu amdanyn nhw wedi profi cam-drin domestig a rhywiol neu wedi dioddef ei effaith, mae Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim. Does dim rhaid i chi fynd drwy hyn ar eich pen eich hun, cysylltwch â gwasanaeth llinell gymorth am gefnogaeth.

Mae pob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal gyda staff hynod brofiadol sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr.

Ffôn: 0808 80 10 800
Testun: 07860077333
Ebost: [email protected]

Gwasanaeth sgwrsio byw
Ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos

 

Childline

Mae Childline yna i helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Gallwch siarad am unrhyw beth, boed fawr neu fach, mae eu cynghorwyr yna i’ch cefnogi chi. Mae Childline am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael unrhyw amser, ddydd a nos.

Ffoniwch am ddim: 0800 1111

Neu ewch i: https://www.childline.org.uk/get-support/

CEOP

Asiantaeth rheoli’r gyfraith yw CEOP a’i nod yw helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cam-drin domestig a meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Maen nhw’n helpu miloedd o blant a phobl ifanc bob blwyddyn sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i chi. Nid yw CEOP yn gallu ymateb i adroddiadau am fwlio, cyfrifon ffug neu hacio cyfrifon.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w gwefan: https://www.ceop.police.uk/Safety-Centre/

Mae Barnardo’s yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw ar gyrion cymdeithas sy’n brwydro i oresgyn anfanteision a achosir gan dlodi, cam-drin a gwahaniaethu.

Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol er mwyn i chi allu dod yn oedolyn â’r hyder sydd ei angen arnoch chi i gyflawni eich potensial yn llawn. Gallwch weld sut y gallan nhw roi cymorth i chi drwy fynd i https://www.barnardos.org.uk/get-support/support-for-young-people

 

Mae BulliesOut yn cynnig cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth angenrheidiol i unigolion, ysgolion, lleoliadau ieuenctid a chymunedol y mae bwlio wedi effeithio arnyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://bulliesout.com/need-support/young-people/

 

C.A.L.L.

Cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

Gall unrhyw un sy’n pryderu am eu hiechyd meddwl eu hunain neu berthynas neu ffrind ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.

Mae’r gwasanaeth Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Ffoniwch 0800 132 737

Neu anfonwch neges destun: help i 81066

 

Elusen iechyd meddwl i blant, pobl ifanc a’u rhieni yw YoungMinds, sy’n gwneud yn siŵr fod pob person ifanc yn gallu cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw.

Maen nhw’n rhoi’r sgiliau i bobl ifanc allu edrych ar ôl eu hiechyd meddwl. Mae’r wefan yn llawn cyngor a gwybodaeth ar beth i’w wneud os ydych chi’n cael anhawster gyda’r ffordd rydych chi’n teimlo. Maen nhw’n rhoi lle a hyder i bobl ifanc gael gwrandawiad a newid y byd rydyn ni’n byw ynddo.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i  https://www.youngminds.org.uk/young-person/

Gwasanaeth neges destun 24/7 yw Shout, sydd am ddim ar bob un o’r prif rwydweithiau ffôn symudol i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le. Mae’n rhywle i fyd os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi a bod angen cymorth uniongyrchol arnoch chi.

Neges destun 85258

 

Samariaid

Gwasanaeth llinell gymorth yw’r Samariaid sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Eu nod yw gweithio gyda phobl i greu man diogel lle gallan nhw siarad am beth sy’n digwydd a sut maen nhw’n teimlo, a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain ymlaen.

Gallwch gael cymorth emosiynol cyfrinachol ar unrhyw adeg gan y Samariaid naill ai drwy ffonio 116 123 neu ebostio [email protected]

 

Llamau

Llamau yw’r brif elusen digartrefedd yng Nghymru sy’n cefnogi’r bobl ifanc a’r menywod mwyaf bregus.

Os oes angen cymorth arnoch chi gyda rhywle i fyw, ewch i https://www.llamau.org.uk/pages/faqs/category/i-am-a-young-person-and-need-help

 

Gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol i bobl ifanc yw NYAS Cymru sy’n cefnogi menywod ifanc beichiog a mamau ifanc â phrofiad o ofal hyd at 25 mlwydd oed. Maen nhw’n darparu cymorth cyfannol un i un, help a chyngor, eiriolaeth a hybu hawliau.

Ffoniwch 0808 808 1001

Neu ebostio [email protected]