Cymorth i Ferched Cymru yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau arbenigol y trydydd sector sy’n gweithio i ddileu cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.
Ein cyflogau a’n buddion
Diwylliant
Mae ein diwylliant yn annog cydbarchu, cydweithredu, creadigrwydd, ac arloesi. Mae ein dull gweithredu yn ymarferol ac rydyn ni’n cynnig trefniadau hyblyg a phatrymau gwaith iach i fodloni amgylchiadau unigol.
Rydyn ni’n rhoi lle hefyd i’n gweithwyr dyfu. Mae cyfleoedd i gysgodi gwaith ym meysydd eraill y busnes, cymryd rhan mewn digwyddiadau a meithrin sgiliau ychwanegol.
Oherwydd natur y gwaith, mae’r swydd hon yn agored i fenywod yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1.
Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad yn lle cynhwysol i weithio. Rydym yn annog ceisiadau gan fenywod o bob cefndir a chymuned – bydd gwarant cyfweliad i ymgeiswyr o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall a phobl ag anabledd sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Ein buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae’r rhan fwyaf o’n swyddi’n gallu manteisio ar y canlynol:
Gweithio hyblyg: chi sy’n dewis pryd i weithio – gallwch gyflawni oriau eich contract rhwng 7am a 7pm.
Gweithio hybryd: chi sy’n dewis ymhle i weithio – yn un o’n swyddfeydd, gartref neu gyfuniad o’r ddau.
Cewch ddewis sut i weithio: rydyn ni’n ymddiried yn ein gweithwyr i ddefnyddio eu doethineb, eu menter a’u sgiliau i gyflawni eu rolau, gyda chymorth ac arweiniad ar gael pan fydd eu hangen.
Iechyd a llesiant:
- Cyfraniadau at archwiliadau optegwyr.
- Mynediad at wasanaeth cymorth gweithwyr 24 awr, gan gynnwys mynediad at gwnsela wyneb yn wyneb/ar-lein, cyngor cyfreithiol ac ariannol a manteision eraill.
- Sesiynau goruchwylio clinigol i’ch cefnogi i gyflawni eich rôl.
- Sesiynau dal i fyny rheolaidd gyda’r tîm a’r sefydliad cyfan (rhithwir ac wyneb yn wyneb) i ddod i adnabod cydweithwyr a chael mynediad at gymorth cymheiriaid.
Pensiwn: cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6% yn dilyn cwblhau cyfnod prawf o 6 mis.
Amser i ffwrdd o’r gwaith: lwfans gwyliau blynyddol o 25 diwrnod ynghyd â gwyliau banc, Noswyl y Nadolig, yn ogystal ag absenoldeb teuluol ac absenoldeb trugarog â thâl ar gyfer adegau pan nad yw bywyd yn mynd yn ôl y disgwyl.
Rheolwr Safonau Aelodaeth a Gwasanaethau Ansawdd
- £35,411 – £38,296 (Graddfa gyflog PO2)
- 37.5 awr yr wythnos
- Contract Parhaol
- Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gyda theithio ledled Cymru fel sydd angen. Opsiynau gweithio hybrid ar gael
Swydd ddisgrifiad cryno
Bydd y swydd reoli hon o fewn y tîm Aelodaeth, Gwasanaethau ac Ymgysylltu yn gyfrifol am gynllunio, rheoli a chryfhau gweithgareddau datblygu gwasanaeth Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer ein haelodaeth genedlaethol.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y tîm aelodaeth a gwasanaethau i gydweithio ag aelodau Cymorth i Ferched Cymru i ddarparu ymatebion gwasanaeth gwell i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth.
Mae hyn yn cynnwys goruchwylio rhaglen Safonau Gwasanaeth Ansawdd Cenedlaethol (NQSS) Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer gwasanaethau aelodau a meithrin gallu o fewn gwasanaethau arbenigol i ymateb i amgylcheddau comisiynu.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Gweler y pecyn recriwtio am wybodaeth fanylach.
Dyddiad cau: Dydd Llun 20 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 29 a Dydd Iau 30 Gorffennaf 2026
Bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal trwy Microsoft Teams
Os ydy hyn yn swnio fel chi, gwnewch gais gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://www.surveymonkey.com/r/BP3TNCB
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl, gallwch e-bostio ni ar [email protected],neu gallwch ein ffonio ar 02920 541 551.
Ffyrdd i wneud cais am rôl gyda Cymorth i Ferched Cymru
Mae tair ffordd wahanol y gallwch wneud cais am un o’n rolau agored:
- Trwy lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen uchod.
- NEU cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn MS Word o’r cais a’i gyflwyno trwy e-bost.
- NEU gofynnwch am gopi papur drwy e-bostio [email protected].
Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i gwblhau’r cais?
- Rydyn ni wedi ceisio cadw’r ffurflen mor fyr â phosibl. Rydyn ni’n amcangyfrif y dylai gymryd rhwng awr a dwy awr i baratoi a chyflwyno eich cais.
- Unwaith y byddwch yn dechrau’r ffurflen gais, fyddwch chi ddim yn gallu arbed eich gwaith a dychwelyd ato’n ddiweddarach, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn lawrlwytho’r rhestr o gwestiynau ac yn paratoi eich atebion ymlaen llaw.
- Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl neu os oes gennych chi ofynion hygyrchedd penodol yr hoffech chi eu trafod gydag aelod o’n tîm recriwtio, gallwch gysylltu â ni ar 02920 541551 neu anfon ebost yn gofyn am alwad ffôn i [email protected].
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich cais?
Os cewch chi’ch gosod ar y rhestr fer, bydd aelod o’r tîm recriwtio yn cysylltu â chi gyda manylion y camau nesaf.
Eisiau gwybod mwy? Mae croeso i chi gysylltu â ni:
Ebost: [email protected]
Ffôn: 02920 541551.