Mae Cymorth i Ferched Cymru a Respect wedi datblygu cwrs hyfforddi deuddydd cwbl integredig i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn gallu adnabod arwyddion Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn well, ymateb yn briodol i ddatgeliadau ac atgyfeirio goroeswyr a chyflawnwyr i wasanaethau cymorth arbenigol.
Dyddiadau ein hyfforddiant nesaf:
- 25th & 27th Mehefin – 9:30-1:30pm
- 11th & 13th Medi – 9:30-1:30pm
- 25th & 29th Tachwedd – 9:30-1:30pm
- 18th & 19th Chwefror – 9:30-1:30pm
Gweithiwr Proffesiynol ag Ymddiriedaeth, i weithwyr Plant a Phobl Ifanc
Ydych chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trais a cham-drin? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cynorthwyo i ddarparu cymorth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau ac a gaiff ei lywio gan drawma, mewn amrywiol leoliadau.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Deall rôl gweithiwr proffesiynol ag ymddiriedaeth i blant a phobl ifanc.
- Adnabod y ffurfiau niferus o drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol y gallai pobl ifanc eu profi.
- Ymateb yn fwy effeithiol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin ac sydd wedi niweidio pobl eraill, gan ddefnyddio cymorth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau ac a gaiff ei lywio gan drawma.
- Deall y defnydd ymarferol o ddamcaniaeth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau, a gaiff ei lywio gan drawma ac sy’n groestoriadol yn eich lleoliad.
Dyddiadau ein hyfforddiant nesaf:
- Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 – 9:30-4:30
- Dydd Mawrth 4 Chwefror 2024 – 9:30-4:30