2022/23: Atal

Llunio sgyrsiau cyhoeddus

Mae ein hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol pwerus yn parhau i fod yn offeryn hanfodol i ni herio’r naratif a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â VAWDASV.

Eleni rydym ni wedi arwain mewn sawl ymgyrch i sbarduno sgyrsiau ac eirioli dros oroeswyr. Mae’r rhain wedi cynnwys ein hymgyrch ‘Maybe she’s just not that into you’ sy’n canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a’n hymgyrch ’16 Diwrnod o Weithredu’ i dynnu sylw at y mater byd-eang o drais ar sail rhywedd, gan orffen gyda ‘Her Nadolig y Rhoi Mawr’.

Nid ydym byth yn tanbrisio pwysigrwydd cyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Dyna pam yn 2022/23, gwnaethom ni barhau i estyn allan ymhellach, gydag ymgysylltiad ar-lein uchel ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Cynnydd o 12% yn y nifer wnaeth hoffi ar ein Facebook.
  • Cynnydd o 8% mewn dilynwyr Instagram.
  • Cynnydd o 4% mewn dilynwyr X (Twitter).

Ar ben hyn, lansiwyd ein gwefan newydd ym mis Medi 2022, ynghyd â nifer o ficro-safleoedd newydd ar gyfer goroeswyr, hyfforddiant, aelodau a mwy.

Trwy gydol y flwyddyn, rydym ni wedi cynnal ein cyfres cyfweliadau ffeministaidd ar Instagram Live, gan daflu goleuni ar nifer o wahanol feysydd. Rhai uchafbwyntiau oedd:

  • Ruth Dodsworth a Sophie Weeks Newyddiaduraeth Gyfrifol.
  • Dr Fiona Vera-Grey a Sara Kirkpatrick. Diogelwch Merched: Pwy sy’n gyfrifol?
  • Wanjiku Mbugua-Ngotho (BAWSO) a Sara Kirkpatrick. Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.

Yn 2022/23 cynhyrchom nifer o ffeithluniau hygyrch ar gyfer ein cyfres ‘Beth am Siarad am…’. Yma, rydym ni’n egluro terminoleg VAWDASV ac yn chwalu camdybiaethau, yn ogystal â thrafod pynciau nad yw pobl efallai yn gwybod digon amdanynt. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Iechyd Meddwl a Thrais yn erbyn Menywod a Merched
  • Hawliau Menywod yn Qatar
  • Rheolaeth drwy orfodaeth
  • Myth Dioddefwr perffaith

Newid yr ymateb i VAWDASV

Yn dilyn ein datblygiad o’r model Newid sy’n Para y llynedd, rydym wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i ganolbwyntio ar un o’r daliadau craidd sydd ynddo; codi ymwybyddiaeth gymunedol. Rydym yn cyflawni hyn drwy ein prosiect Gofyn i Fi, lle rydym ni’n anelu at hyfforddi cymuned o aelodau ‘Gofyn i Fi’ sy’n gallu cyfeirio goroeswyr a herio unrhyw fythau niweidiol am VAWDASV.

Yn 2022/23 fe wnaethon ni hyfforddi 100 o aelodau cymuned Gofyn i Fi o bob rhan o Gymru, fe wnaethon ni gyfeirio 233 o oroeswyr, siarad â 1,006 o aelodau’r gymuned a chyrraedd 7,437 o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn hon, yn ogystal â threfnu 9 digwyddiad o fewn cymuned Gofyn i Fi.

Dod yn rhan o’r gymuned Gofyn i Fi

Rydym ni am sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod pob safbwynt yn cael ei werthfawrogi a’i barchu, a dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ymgynghori Cynhwysiant a Gofyn i Fi ddechrau’r flwyddyn. Amlygodd ein hadroddiad y ffyrdd y gallai ein hyfforddiant Gofyn i Fi ddod yn fwy cynhwysol, gan nodi rhwystrau i gyfranogiad. Daeth i ben gyda phum prif bwynt gweithredu:

  • Sicrhau bod deunyddiau hyfforddi Gofyn i Fi yn cynnwys profiadau goroeswyr byddar, BME, a Traws.
  • Sicrhau y gall cymunedau byddar, BME, a thraws gymryd rhan yn y cynllun Gofyn i Fi.
  • Datblygu perthnasoedd ymddiriedus â chymunedau ymylol.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion amrywiol goroeswyr yn WWA a chydag eraill.
  • Sicrhau bod ymchwil yn cael ei arwain gan y gymuned.

Mae ein model Newid sy’n Para yn cydnabod bod nodi cyflawnwyr yn gynnar yn allweddol i atal camdriniaeth. Eleni, rydym ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Respect i ddatblygu CLIR (Newid sy’n Para Codi Ymwybyddiaeth Gynnar), rhaglen ar gyfer dynion sy’n pryderu am eu hagweddau a’u gweithredoedd tuag at fenywod.

Ei nod yw cefnogi dynion i nodi eu hymddygiad camdriniol ac ymgysylltu ag ymyrraeth newid ymddygiad, yn ogystal â chyfeirio at unrhyw sianeli cymorth priodol eraill. Derbyniwyd 47 o atgyfeiriadau ar gyfer y rhaglen hon, gyda 29 o ddynion wedi cwblhau’r cwrs codi ymwybyddiaeth hyd yma eleni.

Gall y ffordd mae gweithwyr proffesiynol yn ymateb i sefyllfaoedd o gam-drin wneud gwahaniaeth hanfodol i oroeswyr. Gall ein cwrs Gweithwyr Proffesiynol Dibynadwy arfogi unigolion mewn mannau lle mae datgeliadau’n gyffredin, gyda’r wybodaeth i nodi ac ymateb i’r sefyllfaoedd hyn mewn modd diogel ac empathig. Eleni, cynhaliwyd 15 o ddigwyddiadau Gweithwyr Proffesiynol Dibynadwy gyda dros 115 o gynrychiolwyr yn bresennol o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector o bob rhan o ardal De Cymru. Mae dros 90 o weithwyr proffesiynol wedi rhoi adborth i ni:

  • Dywedodd 100% eu bod nhw’n gwybod sut i ymateb i oroeswr.
  • Roedd 93% yn teimlo eu bod nhw’n gallu nodi pan fydd rhywun yn profi camdriniaeth.
  • Dywedodd 99% eu bod nhw’n gwybod at ble i gyfeirio goroeswr posibl.

Dod yn Weithiwr Proffesiynol Dibynadwy

Gwella cefnogaeth i bobl ifanc

Mae plant a phobl ifanc yn haeddu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w profiadau o VAWDASV, wrth i ni gydnabod yr heriau unigryw y gallent eu hwynebu.

Yn 2022/23, fe wnaethom gyfweld â gweithwyr Plant a Phobl Ifanc i ddeall y bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl iau. Arweiniodd hyn at gyhoeddi ein hadroddiad ‘Ieuenctid Anghofiedig: Bylchau yn y Ddarpariaeth Gwasanaeth i Blant a Phobl Ifanc’, a amlygodd sut mae plant a phobl ifanc a allai fod angen gwasanaethau arbenigol yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n atal eu mynediad ato.

Cyflwynwyd argymhellion i wella’r model Newid sy’n Para ynghylch unigolion iau, megis ymgorffori mwy o weithdai ad hoc mewn lleoliadau addysgol a darparu hyfforddiant pellach ymhlith gweithwyr proffesiynol CYP.

Gan ehangu ar y darganfyddiadau hyn, eleni rydym ni wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i gynnwys plant a phobl ifanc ymhellach yn y gwaith a wnawn.

Rydym ni wedi lansio prosiect i barhau i archwilio rôl plant sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, yn ogystal ag ymestyn ein rhaglen Gofyn i Fi gyda rôl newydd o fewn WWA gyda’r nod o gydlynu Gofyn i Fi mewn perthynas â phobl ifanc.

Mae gweithredu cymunedol yn hanfodol i atal VAWDASV. Mae ein Menter Ymyrraeth Gwylwyr yn rhoi’r sgiliau i unigolion nodi sefyllfaoedd problemus posibl a gweithredu’n ddiogel. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr yn teimlo eu bod nhw wedi’u grymuso i gymryd cyfrifoldeb ac ymyrryd yn rhagweithiol i atal trais a chamdriniaeth.

Eleni fe wnaethom gyflwyno i dros 110 o staff a myfyrwyr prifysgol ledled Cymru, yn ogystal â datblygu ein cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr i hyrwyddo lledaenu’r sgiliau hyn.

Dysgwch fwy am Ymyrraeth Gwylwyr