Ar 1 Hydref 2026, mae System Rhyddhau’n Gynnar (Model Cynnydd) Llywodraeth y DU yn dechrau. Mae hyn yn golygu y caiff rhai carcharorion eu rhyddhau yn gynharach na’u dyddiad rhyddhau gwreiddiol. Caiff gweddill y ddedfryd ei bwrw y tu allan i’r carchar, gyda goruchwyliaeth a monitro. Mae’r rheini a gaiff eu rhyddhau o’r carchar yn cynnwys rhai sydd wedi cyflawni cam-drin domestig, fodd bynnag ni fydd hyn yn berthnasol i bob troseddwr ac mae rhestr o eithriadau i’w gweld yma: eithriadau Deddf Dedfrydu 2026 – GOV.UK.
Mae SignHealth hefyd wedi rhyddhau fideo sy’n esbonio’r cynllun yn Iaith Arwyddo Prydain: Early Release Scheme 2026: What it means for deaf people – SignHealth.
Dylai’r rheini sydd wedi cofrestru ar y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr dderbyn gohebiaeth gyda gwybodaeth ar y rhyddhau cynnar posibl. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun cyswllt yma: Gwybodaeth am y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr – GOV.UK.
Caiff y dudalen hon ei defnyddio’n fuan i rannu adnoddau ychwanegol sy’n cael eu datblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid a rhanddeiliaid ochr yn ochr â gwybodaeth ynghylch y Gronfa Dioddefwyr Trais yn erbyn Menywod a Merched i gefnogi’r rheini sy’n gweithio gyda goroeswyr y mae rhyddhau troseddwyr yn gynnar wedi effeithio arnyn nhw.
Datganiad Cymorth i Ferched Cymru ar Ryddhau Carcharorion yn Gynnar
I gael cymorth
Mae cymorth ar gael nawr i unrhyw un sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu’r rheini sy’n poeni am rywun sydd mewn perygl.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.