Fel plant, gall oedolion hefyd brofi neu fod mewn perygl o brofi camfanteisio’n rhywiol.
Mae camfanteisio’n rhywiol yn digwydd pan fydd person yn cael ei orfodi, ei wthio neu ei ddylanwadu i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol:
- Gan rywun fel partner neu ffrind.
- Allan o reidrwydd, i dalu am anghenion sylfaenol fel bwyd neu lety.
Gall camfanteisio’n rhywiol ddigwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:
- Trefniadau ‘rhyw am rent’, lle mae landlord yn cynnig llety yn gyfnewid am weithgarwch rhywiol.
- Cael eich gorfodi i gyfnewid rhyw am arian, llety, bwyd er mwyn goroesi – sydd hefyd yn cael ei alw yn ‘rhyw goroesi’.
- Cael eich gorfodi i’r diwydiant rhyw gan drydydd parti – fel partner neu ffrind.
- Cael eich gorfodi i weithgarwch rhywiol digroeso gyda thrydydd partïon gan bartner, aelod o’r teulu neu ffrind.
- Cael eich masnachu er mwyn cyflawni gweithredoedd rhywiol.
Yn aml, mae elfen o feithrin perthynas amhriodol cyn i’r camfanteisio ddigwydd.
Beth yw meithrin perthynas amhriodol?
Mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn adeiladu perthynas neu gysylltiad gyda pherson er mwyn cam-drin neu gamfanteisio arnynt.
Gallai hyn ymddangos fel ffurfio cyfeillgarwch, cynnig cymorth gydag arian neu dai, creu dibyniaeth ar y sawl sy’n meithrin y berthynas. Yna mae’r ymddiriedaeth hon yn cael ei defnyddio i orfodi rhywun i gamfanteisio, yn aml dan esgus talu’n ôl am y cymorth a roddwyd.
Mae’n bwysig cofio y gallai camfanteisio fod yn digwydd o hyd, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod gweithgarwch rhywiol yn gydsyniol.
I gael cymorth
Os ydych chi’n poeni eich bod chi’n profi camfanteisio, neu eich bod chi’n poeni am rhywun arall, gallwch estyn allan i’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am gymorth. Gall y llinell gymorth gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol, heb feirniadaeth, ac mae ar gael 24/7.
Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar:
- Ffonio 0808 80 10 800
- Neges destun 07860 077333
- E-bost [email protected]
- Sgwrs ar y we https://gov.wales/live-fear-free/domestic-abuse-wales
Trosglwyddo Iaith Arwyddion y DU – Deialwch 18001 bob amser cyn y rhif rydych chi’n ceisio ei ffonio.
Gellir cyrchu’r llinell gymorth hefyd trwy’r ap sign live, gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play, sefydlu cyfrif ac yna chwilio am y llinell gymorth byw heb ofn.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl ar unwaith, dylech gysylltu â’r heddlu ar 999.