Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, deialwch 999.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn ffoniwch yr Heddlu ar 999 neu ffoniwch linell gymorth yr NSPCC – 0808 800 5000.
Live Fear Free Helpline
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Os ydych chi’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin, neu os ydych chi’n poeni am ffrind neu berthynas, gallwch chi ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim, 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.
Bydd staff y llinell gymorth yn eich helpu i siarad am eich teimladau ac i archwilio’ch dewisiadau o ran cael cymorth. Os ydych chi’n profi cam-drin domestig gan bartner agos neu aelod o’r teulu, bydd staff y llinell gymorth yn eich helpu i nodi ffyrdd y gallwch chi gynyddu eich diogelwch eich hun a diogelwch eich plant beth bynnag yw’r dewisiadau y byddwch yn eu gwneud am eich perthynas.
Mae modd rhoi gwybodaeth hefyd am wasanaethau lleol a all helpu i’ch cefnogi a’ch amddiffyn yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a’ch dewisiadau. Gall hyn gynnwys gwasanaethau a all eich helpu gyda thai, budd-daliadau lles, materion cyfreithiol, cwnsela a sut i gael mynediad i Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).
Mae pob galwad yn gyfrinachol, ac nid ydym ni’n rhannu’ch gwybodaeth gydag asiantaethau eraill heb eich caniatâd llawn. Yr eithriadau i hyn yw os byddwch chi’n dweud wrthym bod eich bywyd chi mewn perygl uniongyrchol neu os oes plentyn mewn perygl. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai’r awdurdodau’n cael eu hysbysu i sicrhau eich diogelwch a’ch lles chithau a’ch plant.
Ffoniwch 0808 80 10 800 am gymorth cyfrinachol am ddim, 24 awr.
Gwasanaethau cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yng Nghymru
Gall gwasanaethau lleol cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod ar hyd a lled Cymru eich cefnogi chi (a’ch plant os oes gennych chi rai) gydag amrywiaeth o gymorth i ateb eich anghenion. Maen nhw’n darparu eiriolaeth a chymorth unigol, cwnsela, grwpiau cymorth yn ogystal â mynediad i loches ac opsiynau llety diogel eraill. Mae llawer o wasanaethau yn cynnal sesiynau galw heibio lle gallwch chi fynd i siarad am eich sefyllfa a chael cymorth a chyfarwyddyd cychwynnol.