What is coercive control?
Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn cyfeirio at batrymau parhaus o ymddygiadau sydd â’r bwriad o roi pŵer neu reolaeth dros oroeswr. Mae’r ymddygiadau hyn yn amddifadu goroeswyr o’u hannibyniaeth a gallant wneud iddynt deimlo’n ynysig neu’n ofnus. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar fywyd a lles goroeswr o ddydd i ddydd.
Gall rheolaeth drwy orfodaeth fod yn anodd i oroeswyr, a’r rhai sydd o’u cwmpas, ei chydnabod oherwydd gall y tactegau sy’n cael eu defnyddio fod yn gynnil a gwaethygu’n araf. Mae rheolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas yn ffurf gydnabyddedig o gam-drin.
Mathau o reolaeth drwy orfodaeth:
Gall ymddygiad rheolaethol gynnwys:
- Eich ynysu oddi wrth eich teulu neu’ch ffrindiau
- Rheoli’r hyn rydych chi’n ei fwyta, ei wisgo neu’n ei wneud
- Rheoli pwy rydych chi’n cael ei weld neu gyda phwy rydych chi’n cael treulio amser
- Eich atal chi rhag cael gafael ar gymorth
- Gwneud i chi amau eich pwyll eich hun (Dibwyllo)
- Monitro eich ymddygiad (ar-lein neu wyneb yn wyneb)
- Eich tracio, er enghraifft, drwy ddefnyddio eich ffôn neu’ch car
- Rheoli eich cyllid, er enghraifft, eich gallu i ennill arian neu’r hyn rydych chi’n gwario’ch arian arno
- Eich bygwth neu’ch dychryn yn emosiynol neu’n gorfforol
- Bygwth datgelu gwybodaeth amdanoch yn gyhoeddus
- Eich bychanu neu’ch diraddio chi
- Eich tynnu chi i lawr dro ar ôl tro
- Gwneud i chi deimlo’n ofnus o beidio â chydymffurfio
Serch hynny, nid oes rhestr derfynol o ymddygiadau sy’n cael eu hystyried yn rheolaeth drwy orfodaeth. Os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sydd wedi’i bwriadu i roi pŵer neu reolaeth drosoch chi, yna mae’r ymddygiad hwnnw yn anghywir ac mae cymorth ar gael i chi.
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.