Digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi, bygwth, diraddio, neu ymddygiad treisgar, gan gynnwys trais rhywiol¹. Gan amlaf, mae hyn yn digwydd gan bartner neu gyn-bartner, ond gall aelod o’r teulu neu ofalwr ei achosi hefyd. Gall cam-drin domestig ddigwydd yn y cartref neu rywle arall, ac yn aml mae’n parhau ar ôl i’r berthynas rhwng y goroeswr a’r cyflawnwr ddod i ben.
Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un.
Os yw ymddygiad yn arwain at deimladau o ofn, braw neu ofid, mae’n gam-drin. Mae hawl gennych chi deimlo’n ddiogel a byw heb ofn.
Mathau o gam-drin domestig
Mae nifer o wahanol fathau o gam-drin domestig. Gall y rhain gynnwys, ymhlith pethau eraill:
(Cliciwch y penawdau isod i gael mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda. Nodwch fod y rhain yn cynnwys disgrifiadau o gam-drin a all beri gofid.)
Pam mae rhywedd yn bwysig?
Er bod cam-drin domestig yn gallu digwydd i unrhyw un, mae’n effeithio’n anghymesur ar fenywod2. O’r herwydd, caiff ei ystyried yn drosedd ryweddol sydd wedi’i gwreiddio mewn anghydraddoldeb strwythurol rhwng dynion a menywod, ac mae’n rhan o batrwm ehangach trais yn erbyn menywod a merched (VAWDASV).
Gall menywod sy’n profi mathau eraill o orthrwm, fel hiliaeth, rhagfran ar sail gallu, homoffobia, a gwahaniaethu oherwydd eu statws mewnfudo, wynebu rhwystrau pellach i ddatgelu cam-drin a chael gafael ar gymorth. Er enghraifft, mae menywod sy’n destun rheolaeth mewnfudo yn aml yn cael eu hatal rhag cael mynediad i wasanaethau gan nad oes hawl ganddynt i gael arian cyhoeddus.
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.