What is female genital mutilation (FGM)?
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cyfeirio at amrywiaeth o driniaethau sydd wedi’u bwriadu naill ai i niweidio neu gael gwared â genitalia allanol benywod yn rhannol neu’n llwyr am unrhyw resymau nad ydyn nhw’n feddygol. Fel arfer caiff ei wneud i ferched rhwng 1 a 15 oed, ond gall goroeswyr fod yn hŷn neu’n iau.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn fater byd-eang. Mae rhai’n honni ei fod yn cael ei gyflawni am resymau crefyddol, ond nid yw’n ofyniad ar gyfer unrhyw grefydd ac mae’r arfer yn hŷn na’r mwyafrif o grefyddau. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod wedi’i gondemnio gan y Cenhedloaedd Unedig ac yn ehangach gan lawer o arweinwyr a sefydliadau crefyddol ledled y byd.
Mathau o anffurfio organau cenhedlu benywod
Mae pedwar prif fath o FGM1:
- Math 1 (clitoridectomi): cael gwared â rhan, neu’r cyfan, o’r clitoris
- Math 2 (toriad): cael gwared â rhan, neu’r cyfan, o’r clitoris a’r labia mewnol
- Math 3 (gwaëgiad): culhau agoriad y fagina drwy greu sêl, wedi’i ffurfio drwy dorri ac ail- leoli’r labia
- Triniaethau niweidiol eraill: gall y rhain gynnwys pigo, tyllu, torri, crafu, neu losgi genitalia benywod
Effeithiau anffurfio organau cenhedlu benywod
Nid oes unrhyw fanteision meddygol o anffurfio organau cenhedlu benywod, ond gall gael effeithiau niweidiol difrfol fel:
- Poen difrifol
- Heintiau cronig a chymhlethdodau iechyd o ganlyniad i hynny, er enghraifft, firysau sydd wedi’u cludo gan y gwaed
- Sioc, gwaedlif, a marwolaeth
- Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
- Iselder a gorbryder
- Niwed i organau
- Anhawster pasio wrin a mislif annormal
- Meinwe greithiol
- Niwed i’r system atgenhedlu, a all arwain at anffrwythlondeb
- Poen yn ystod rhyw neu libido isel
- Cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth
- Hunan-barch isel
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.