Priodas dan orfod yw lle nad yw un neu’r ddau berson yn cydsynio neu’n methu â chydsynio i’r briodas a lle caiff pwysau, gorfodaeth neu gam-drin gan aelodau‘r teulu neu eraill eu defnyddio i’w gorfodi nhw i briodi.
Sut olwg sydd ar briodas dan orfod?
- Pwysau corfforol: bygythiadau, trais corfforol neu drais rhywiol.
- Pwysau emosiynol a seicolegol: gwneud i rywun deimlo y bydd yn dod â gwarth ar y teulu.
- Pwysau ariannol: atal cyflogau rhywun neu gyfyngu mynediad at arian.
Nid yw priodas dan orfod yr un fath â phriodas sy’n cael ei threfnu. Mewn priodas sy’n cael ei threfnu, er bod aelodau o’r teulu yn gallu paru’r cwpl sydd yn priodi, mae gan y naill barti a’r llall ddewis a ydyn nhw am gytuno i gydsynio i briodi ai peidio.
Nid yw priodas dan orfod yn fater sy’n perthyn yn benodol i unrhyw grefydd, grŵp ethnig neu ddiwylliant. Mae cydsyniad sy’n cael ei roi yn rhydd yn rhagofyniad o briodasau Cristnogol, Iddewig, Hindŵ, Mwslimaidd a Sikh.
Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn ei gwneud hi’n drosedd i orfodi rhywun i briodi. Mae hyn yn cynnwys:
- mynd â rhywun dramor i’w gorfodi i briodi (boed y briodas dan orfod yn digwydd ai peidio)
- priodi rhywun nad oes ganddyn nhw’r gallu meddyliol i gydsynio i’r briodas (boed yr unigolyn dan bwysau ai peidio)
- mae torri Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod hefyd yn drosedd
Mae Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod sydd ar gael drwy’r llysoedd teulu (llysoedd sifil) yn parhau i fodoli ochr yn ochr â’r drosedd, felly gall dioddefwyr ddewis sut maen nhw’n dymuno cael cymorth.
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.