Wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU argymell bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol ac yn hunanynysu, rydym yn gwybod y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar fenywod a phlant sy’n profi trais a chamdriniaeth. Yn anffodus, nid yw cartref ac ynysu yn lloches i lawer o fenywod a phlant ledled y wlad sy’n byw gydag effaith camdriniaeth. I’r unigolion hynny, bydd hwn yn gyfnod arbennig o heriol a brawychus. Rydym am roi sicrwydd i oroeswyr bod cymorth ar gael yn ystod y cyfnod heriol hwn – nid ydych ar eich pen eich hun.
Rydym yn ymwybodol y gall nifer o agweddau ar ynysu, gan gynnwys seibiant o’r drefn arferol o weithio ac ansicrwydd ariannol, gyfrannu at arfer mwy o reolaeth, trais a mathau eraill o gam-drin. Gallai gorfodi person i ynysu gyda rhywun sy’n gamdriniol hefyd gyfyngu a gwahardd y cyfleoedd i oroeswyr sy’n byw gyda chamdriniaeth adael eu camdriniwr. I rai goroeswyr, gwaethygir y rhwystr gan wahaniaethu lluosog, megis yn achos menywod â statws mewnfudo ansicr sydd â mynediad cyfyngedig at ofal iechyd neu adnoddau ariannol, neu oroeswyr anabl a all fod mewn mwy o berygl o gael eu heintio.
Gall yr amseroedd ansicr hyn hefyd fod yn drawmatig i’r rheini sydd wedi goroesi camdriniaeth yn y gorffennol. Gall cadw pellter ac ynysu sbarduno ôl-fflachiadau ac atgofion poenus a all fod yn andwyol i les ar adeg sydd eisoes yn anodd. Rydym yn cydnabod y gallai’r penderfyniad a wnaed yr wythnos hon gan yr Arglwydd Brif Ustus i ohirio treialon rheithgor sy’n para mwy na 3 diwrnod o ganlyniad i’r coronafeirws, fod yn annifyr ac yn aildrawma i oroeswyr trais rhywiol a cham-drin domestig sy’n aros i fynd i’r llys.
Mae’n bwysig pwysleisio bod Cymorth i Ferched Cymru yn sefyll mewn undod â goroeswyr, wrth ddymuno sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael i bob menyw a phlentyn pan fydd ei angen arnynt. Safwn mewn undod â gwasanaethau arbenigol sy’n ymdrechu i barhau â’u cymorth sy’n achub ac yn newid bywydau yn ystod yr amser heriol hwn. Ymafalchïwn yn ein gweithwyr cymorth arbenigol ledled Cymru ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am gymryd camau sylweddol i gadw gwasanaethau ar agor i oroeswyr, gan gynnal darpariaeth lloches a hwyluso sesiynau therapi a chymorth ar-lein.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24/7 ac mae’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i unrhyw un sy’n profi trais neu gamdriniaeth, unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth (er enghraifft cyfaill, aelod o’r teulu neu gydweithiwr), unrhyw ymarferwyr sy’n chwilio am gyngor proffesiynol. Mae’r llinell gymorth yn cael ei rhedeg gan dîm medrus sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg: 080880 10 800
Tecst: 0780077333
Ebost: [email protected]
Gwesgwrs: livefearfree.org.uk
Cewch fwy o wybodaeth am gefnogi teulu a chyfeillion sy’n profi camdriniaeth drwy glicio yma.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig iawn. Dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch coronaferiws yma, os gwelwch yn dda: gov.wales/coronavirus