Ymunwch â Thîm Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 6 Hydref 2024.
Cymerwch ran yn yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU a gwnewch wahaniaeth go iawn i oroeswyr camdriniaeth a thrais ledled Cymru.
Bydd ein rhedwyr yn derbyn:
- Fest redeg Cymorth i Ferched Cymru am ddim pan fyddwch chi’n codi £100.
- Pecyn cymorth ac adnoddau codi arian digidol i’ch helpu i gyrraedd eich nodau.
- Cylchlythyrau tîm rheolaidd a sgyrsiau grŵp i’ch ysbrydoli a’ch cymell drwy’r cyfan.
- Cefnogaeth ymroddedig gan ein tîm codi arian bob cam o’r ffordd.
Lleoedd elusennol
I ymuno â thîm Cymorth i Ferched Cymru gydag un o’n lleoedd elusennol, gofynnwn i chi ymrwymo i darged codi arian o £250 o leiaf. Bydd angen i chi hefyd wneud rhodd o £10 fel blaendal i sicrhau eich lle a fydd yn cyfrif tuag at eich targed cyffredinol.
Cofrestrwch yma am le elusennol!
Oes gennych chi eich lle eich hun?
Os oes gennych chi eich lle eich hun eisoes a hoffech chi redeg er budd Cymorth i Ferched Cymru, llenwch y ffurflen gofrestru isod i ymuno â’n tîm os gwelwch yn dda.