Cymorth i Ferched Cymru yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau arbenigol y trydydd sector sy’n gweithio i ddileu cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.
Ein cyflogau a’n buddion
Diwylliant
Mae ein diwylliant yn annog cydbarchu, cydweithredu, creadigrwydd, ac arloesi. Mae ein dull gweithredu yn ymarferol ac rydyn ni’n cynnig trefniadau hyblyg a phatrymau gwaith iach i fodloni amgylchiadau unigol.
Rydyn ni’n rhoi lle hefyd i’n gweithwyr dyfu. Mae cyfleoedd i gysgodi gwaith ym meysydd eraill y busnes, cymryd rhan mewn digwyddiadau a meithrin sgiliau ychwanegol.
Mae’r rhan fwyaf o’n rolau yn agored i fenywod yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1, sy’n cynnwys ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o fod yn fenyw.
We value diversity and are committed to promoting equality. We encourage applications from women from all backgrounds and communities – applicants from Black, Asian or other ethnic minority backgrounds and people with a disability who meet the essential job criteria will be guaranteed an interview.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan fenywod o bob cefndir a chymuned – bydd ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf swydd hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.
Ein buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae’r rhan fwyaf o’n swyddi’n gallu manteisio ar y canlynol:
Gweithio hyblyg: chi sy’n dewis pryd i weithio – gallwch gyflawni oriau eich contract rhwng 7am a 7pm.
Gweithio hybryd: chi sy’n dewis ymhle i weithio – yn un o’n swyddfeydd, gartref neu gyfuniad o’r ddau.
Cewch ddewis sut i weithio: rydyn ni’n ymddiried yn ein gweithwyr i ddefnyddio eu doethineb, eu menter a’u sgiliau i gyflawni eu rolau, gyda chymorth ac arweiniad ar gael pan fydd eu hangen.
Iechyd a llesiant: gwiriadau am ddim gydag optegydd, mynediad at ein llinell gymorth cwnsela a chyngor 24 awr, sesiynau cwnsela a CBT wyneb yn wyneb/ar-lein, sesiynau ‘Arfer Myfyriol’ unigol neu grŵp i’ch cefnogi wrth gyflawni eich rôl, cyfarfodydd tîm rheolaidd (rhithwir ac wyneb yn wyneb) i ddod i adnabod cydweithwyr ac ar gyfer cymorth gan gymheiriaid, a chyfle i ymuno â’n Grŵp Gweithredu Croestoriadedd i drafod a helaethu gweithgareddau i ddatblygu Cymorth i Ferched Cymru fel gweithle cynhwysol.
Pensiwn: cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6% yn dilyn cwblhau cyfnod prawf o 6 mis.
Amser i ffwrdd o’r gwaith: lwfans gwyliau blynyddol o 25 diwrnod ynghyd â gwyliau banc, Noswyl y Nadolig, yn ogystal ag absenoldeb teuluol ac absenoldeb trugarog â thâl ar gyfer adegau pan nad yw bywyd yn mynd yn ôl y disgwyl.
Swyddog Cymorth Hyfforddiant
- £24,054 y flwyddyn pro rata
- 15 awr yr wythnos
- Contract tymor penodol tan 30 Ebrill 2024
- Gweithio hybrid gyda gofyniad am bresenoldeb yn y swyddfa pan fo angen.
Dyddiad cau: 8 Rhagfyr 2024
Dyddiad y cyfweliad: 18 Rhagfyr 2024
Disgrifiad swydd byr: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r tîm hyfforddi, gan ddarparu cymorth gweinyddol a chefnogi’r Pennaeth Hyfforddiant a’r Cydlynydd Hyfforddiant i sicrhau bod yr adran hyfforddi, sy’n cynnwys hyfforddwyr a gyflogir yn fewnol a’r rhai sy’n gweithio ar sail ymgynghori, yn rhedeg yn esmwyth.
Bydd yn cefnogi’r Cydlynydd Hyfforddiant i archebu dyddiadau hyfforddi fel sy’n ofynnol gan bartneriaid allanol ac yn rheoli gofynion gweinyddol megis teithio, llety ac adnoddau yn unol â hynny, yn ogystal â chefnogi dysgwyr i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir yn unol ag anghenion achredu mewnol ac allanol.
Manyleb Person
Mae’r swydd hon yn agored i fenywod yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1, mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o fod yn fenyw. Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad yn lle cynhwysol i weithio ynddo.
Oes gennych:
- Brofiad gweinyddol a/neu brofiad o ddarparu cymorth prosiect, yn ddelfrydol mewn amgylchedd dysgu.
- Ymwybyddiaeth o faterion diogelu data a chyfrinachedd mewn perthynas â chynnal cronfeydd data a gwybodaeth gysylltiedig.
- Y gallu i reoli llwyth gwaith sy’n newid yn gyson a darparu cymorth gweinyddol effeithiol ar draws tîm mawr.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac o fewn y tîm staff.
- Y gallu i weithio i derfynau amser tynn ac i ymateb yn ddynamig ac yn hyblyg i amrywiaeth o ofynion sy’n cystadlu â’i gilydd.
- Y gallu i reoli adnoddau gwybodaeth fel cronfeydd data, a chynnal a diweddaru systemau ar gyfer monitro a gwerthuso anghenion a digwyddiadau hyfforddi.
Oes gennych:
- Wybodaeth am wasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’u cyflenwi mewn fframwaith moesegol a theg.
- Dealltwriaeth gref o’r cyd-destun gwleidyddol, y seilwaith a’r prosesau comisiynu presennol yng Nghymru.
Ydych chi:
- Yn hynod drefnus ac yn rhagorol wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i negodi’n effeithiol i gyflawni amcanion a chynnal perthnasoedd gweithio da.
- Yn gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith cymhleth, cwrdd â therfynau amser, datrys problemau, ac ymateb i ofynion sydd heb eu cynllunio gan ddefnyddio dull rhagweithiol a chadarnhaol.
- Wedi ymrwymo i gynnal gwerthoedd, gweledigaeth a chenhadaeth Cymorth i Ferched Cymru gan gynnnwys dull gweithredu gwrthwahaniaethol, seiliedig ar gyfleoedd cyfartal, a chroestoriadol ym mhob maes gwaith.
Os yw hyn yn swnio fel chi, gwnewch gais gan ddefnyddio’r Ddolen
Mae dogfennau atodol ar gael ar ein gwefan Gweithiwch gyda ni : Cymorth i Ferched Cymru (cymorthiferchedcymru.org.uk)
E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch ni ar 02920 541 551 os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl.
Ffyrdd i wneud cais am rôl gyda Cymorth i Ferched Cymru
Mae tair ffordd wahanol y gallwch wneud cais am un o’n rolau agored:
- Cwblhau ffurflen gais ar-lein – mae’r manylion i’w gweld yn y ddogfen pecyn swydd. Cyn i chi ddechrau, gallwch weld rhestr o’r holl gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb.
- NEU cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn MS Word o’r cais a’i gyflwyno trwy ebost.
- NEU gofynnwch am gopi papur drwy ebostio [email protected].
Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i gwblhau’r cais?
- Rydyn ni wedi ceisio cadw’r ffurflen mor fyr â phosibl. Rydyn ni’n amcangyfrif y dylai gymryd rhwng awr a dwy awr i baratoi a chyflwyno eich cais.
- Unwaith y byddwch yn dechrau’r ffurflen gais, fyddwch chi ddim yn gallu arbed eich gwaith a dychwelyd ato’n ddiweddarach, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn lawrlwytho’r rhestr o gwestiynau ac yn paratoi eich atebion ymlaen llaw.
- Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl neu os oes gennych chi ofynion hygyrchedd penodol yr hoffech chi eu trafod gydag aelod o’n tîm recriwtio, gallwch gysylltu â ni ar 02920 541551 neu anfon ebost yn gofyn am alwad ffôn i [email protected].
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich cais?
Os cewch chi’ch gosod ar y rhestr fer, bydd aelod o’r tîm recriwtio yn cysylltu â chi gyda manylion y camau nesaf.
Eisiau gwybod mwy? Mae croeso i chi gysylltu â ni:
Ebost: [email protected]
Ffôn: 02920 541551.