Home > Newid sy’n Para > Prosiect Gofyn i fi > Hyfforddiant Wyneb yn Wyneb Go… Hyfforddiant Wyneb yn Wyneb Gofyn i Fi Cofrestru diddordeb Ydy’r cwrs hwn yn iawn i fi? Dilynwch y gwymplen isod am fwy o wybodaeth neu os na chewch chi ateb i’ch cwestiwn, cysylltwch â ni [email protected] Cwestiynau Cyffredin Beth yw’r ymrwymiad o ran amser? Mae’r cwrs Gofyn i Fi wyneb yn wyneb yn gwrs undydd. Does dim angen unrhyw ddysgu annibynnol na dysgu ymlaen llaw. Beth os na allaf ddod i bob un o’r diwrnodau hyfforddi? Pan fo’n bosib, rydyn ni’n gofyn i chi gofrestru ar gwrs dim ond os ydych chi’n eithaf siŵr y byddwch chi’n gallu dod i bob un o’r dyddiadau hyfforddi. Rydyn ni’n deall bod pethau annisgwyl yn gallu codi. Os yw hyn yn digwydd byddwn ni’n gwneud ein gorau i helpu ac, os gallwn ni gynnig dyddiad arall, byddwn yn gwneud hynny. Ambell waith efallai na fydd hyn yn bosib a bydd y cydlynydd yn trafod eich opsiynau gyda chi. Er mwyn cael y gefnogaeth ddilynol (grwpiau Facebook, cefnogaeth cyfoedion, cyfarfodydd, cylchlythyrau) bydd rhaid cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Beth bydd ei angen arnaf i er mwyn cymryd rhan? Dim ond chi eich hun ac unrhyw fwydydd neu ddiodydd ysgafn hoffech chi ddod â nhw gyda chi! Byddwn ni’n darparu ysgrifbin, papur a’r holl ddeunydd hyfforddi. Fel arfer byddwn ni’n cynnig cinio bwffe ar y dyddiau hyfforddi a bydd y cydlynydd yn rhoi gwybod i chi os na fydd hyn yn digwydd. Oes gofal plant ar gael? Sylwch os gwelwch yn dda fod y cwrs hwn ar gyfer pobl dros 18 oed felly gofynnwn nad yw plant yn bresennol yn y sesiynau hyfforddi. Fel arfer gallwn ad-dalu costau gofal plant ar gyfer dod ar y cwrs. Siaradwch â’r cydlynydd os yw hyn yn berthnasol. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn ni’n gallu darparu gofal plant. Os byddai’n well gennych chi i ni wneud hynny, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach. Faint o ddarllen sydd ei angen? Er ein bod ni’n defnyddio powerpoint, bydd yn cael ei egluro ar lafar a’i ehangu bob tro gan y cydlynydd felly does dim rhaid eich bod yn gallu ei ddarllen. Ambell waith rydyn ni’n darparu deunyddiau darllen ategol dewisol. Gallwn eu darparu’n electronig neu gall y cydlynydd egluro eu cynnwys i chi wyneb yn wyneb. Os oes angen fformat gwahanol arnoch chi, cysylltwch ac fe geisiwn ei ddarparu i chi. Mae rhai ymarferion grŵp wedi’u seilio ar astudiaethau achos ysgrifenedig gyda’r grŵp yn eu trafod gyda’i gilydd ac yn bwydo’n ôl ar lafar. Bydd y cydlynydd yn hapus i fynd drwy hyn ar lafar gyda grwpiau os mai dyna eu dewis. I chi gael gweld y lefel o ddarllen sydd ei angen, mae enghraifft o un o’n astudiaethau achos yma. Rydyn ni’n gofyn i gyfranogwyr lenwi ffurflen werthuso ond gallwn drefnu i wneud hyn ar lafar os ydych chi’n dewis. Pa mor abl sydd angen i fi fod gyda TG? Caiff y cwrs ei gyflwyno wyneb yn wyneb ond fel arfer caiff cyfarwyddiadau ar sut i ymuno eu hanfon drwy ebost a byddwn fel rheol yn gofyn i bobl gofrestru ar-lein. Hefyd rydyn ni’n gofyn i bobl sydd wedi cwblhau’r cwrs lenwi arolwg byr ar-lein unwaith y mis i ni gael gweld sut mae’n mynd, hysbysebu ein digwyddiadau ar-lein, a rhannu ein hadnoddau ar-lein. Ond gallwn ddarparu’r deunyddiau hyn mewn print os yw’n well gennych chi – siaradwch gyda’r cydlynydd. Ydy’r cwrs yn addas i oroeswyr? Ydy wir! Gall unrhyw un gymryd rhan yng nghynllun Gofyn i Fi, boed nhw’n oroeswr neu beidio ac mae llawer o’r rhai sy’n dilyn y cwrs yn oroeswyr. Ond mae rhai pethau y dylech chi feddwl amdanyn nhw cyn mynd ymlaen. Os ydych chi’n cael eich cam-drin ar hyn o bryd meddyliwch a yw hi’n ddiogel i chi wneud y cwrs nawr. Er enghraifft, os byddai’r person hwnnw’n dod i wybod am y cwrs, a fyddai hyn yn eich rhoi chi mewn perygl? Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â ni cyn cofrestru os gwelwch yn dda. Os ydych chi’n cael eich cam-drin ar hyn o bryd, cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael am ddim drwy ein llinell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn. Hyd yn oed os nad yw’r cam-drin wedi digwydd i chi yn ddiweddar a’ch bod chi’n ddiogel nawr, efallai y byddwch chi am ystyried sut y gallech chi deimlo ar gwrs sy’n trafod cam-drin. Er ein bod ni wedi gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cwrs mor ddiogel a chefnogol â phosibl, nid yw’r cwrs yn un therapiwtig nac yn gwrs cymorth, ac i rai pobl efallai nad dyma’r amser iawn iddyn nhw gymryd rhan. Gaf i ddod gyda fy mhartner a/neu ffrind? Rydyn ni’n gofyn i bobl mewn perthynas ramantus neu agos ddod i’r cwrs ar wahân. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn cael lle diogel i ystyried y cynnwys ac os ydyn nhw’n nodi eu bod yn profi cam-drin, maen nhw’n gallu cael cefnogaeth yn ddiogel. Os ydych chi a ffrind yn dymuno cofrestru ar ar gyfer yr un cwrs, mae croeso i chi wneud! Ond nodwch fod lleoedd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin a’n bod yn annog pobl i gwblhau gweithgareddau gydag aelodau gwahanol drwy gydol y cwrs. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn i bawb gael y cyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chyfarfod â phobl newydd. Bydd digon o gyfle i chi gymdeithasu gyda’ch ffrind drwy gydol y dydd, ond os yw cael eich gwahanu’n broblem i chi rhowch wybod i ni ymlaen llaw i ni gael trafod y ffordd fwyaf cefnogol ymlaen. Ydy’r cwrs yn addas i’r swydd bresennol sydd gen i neu i’r un yr hoffwn ei chael? Cofiwch mai menter gymunedol yw Gofyn i Fi a’i nod yw ein helpu i weld beth allwn ni ei wneud fel aelodau o’r gymuned i helpu i ddileu cam-drin, yn hytrach na helpu eich swydd chi. Mae croeso wrth gwrs i chi ddefnyddio beth rydych chi’n ei ddysgu yn eich gweithle neu yrfa os yw’n briodol. Ond nid bwriad Gofyn i Fi yw rhoi sgiliau ar gyfer unrhyw swydd benodol, na bod yn gymeradwyaeth neu ddangos gallu i gyflogwyr ac nid yw’n cymryd lle unrhyw hyfforddiant yn y gweithle y gallai fod angen i chi ei wneud fel rhan o’ch swydd. Er mwyn cynnal y ffocws cymunedol a sicrhau lleisiau amrywiol yn yr ystafell, fel arfer byddwn yn cyfyngu unrhyw sefydliad unigol i 2 le ar y cwrs ac yn gofyn bod gan y rhai sy’n dod ddiddordeb mewn gweithredu yn eu cymunedau i helpu i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. (Nodwch fod cynllun gwahanol sydd ag enw tebyg – Gofyn a Gweithredu, a cheir opsiwn cwrs Gweithiwr Proffesiynol ag Ymddiriedaeth hefyd, ar gael i weithwyr sector cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun hwnnw yma.) Mae gen i gwestiwn arall Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am Gofyn i Fi neu os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, ebostiwch ni os gwelwch yn dda: [email protected]