Mynegi Diddordeb

Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y cwrs Gofyn i Fi

Atebwch yr holl gwestiynau. Gallwn ni eich helpu i gwblhau’r ffurflen neu ei chwblhau dros y ffôn os ydych yn ansicr neu angen unrhyw gymorth – cysylltwch os gwelwch yn dda: askmeWales@welshwomensaid.org.uk.

Eich data chi

Drwy fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun Gofyn i Fi rydych chi’n cytuno y caiff Cymorth i Ferched Cymru storio a defnyddio’r wybodaeth sydd ar y ffurflen hon.

Caiff y wybodaeth ar y ffurflen ei defnyddio dim ond i asesu a ydych chi’n addas ar gyfer Gofyn i Fi, nodi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen ar ymgeiswyr a sicrhau bod gennym ni fanylion cyswllt ar gyfer gohebiaeth yn gysylltiedig â Gofyn i Fi.

Caiff y wybodaeth ei storio’n electronig yn unol â’n polisi Cyfrinachedd, Diogelu Data a Rhannu Gwybodaeth.

Caiff y wybodaeth ei chadw tra byddwch chi’n rhan o gynllun Gofyn i Fi ac am 6 mis ar ôl i chi adael y cynllun. Byddwn yn adolygu ein cofnodion bob chwarter ac yn gofyn i unrhyw un sydd heb gwblhau traciwr gweithredu am 6 mis i gadarnhau a ydyn nhw’n awyddus barhau’n rhan o Gofyn i Fi. Ar unrhyw adeg gallwch ofyn am gael tynnu eich manylion oddi ar ein cronfa ddata drwy gysylltu â Chydlynydd Gofyn i Fi: askmeWales@welshwomensaid.org.uk.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, pryderon neu ymholiadau am sut y caiff eich data ei storio, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: dataprotection@welshwomensaid.org.uk.

Mae angen meysydd sydd wedi’u marcio â *

Pwrpas y cwrs

Cynllun cymunedol yw Gofyn i Fi a’i nod yw ein helpu i weld beth allwn ni fel unigolion ei wneud i helpu i ddileu cam-drin, yn hytrach na rhoi gwybod sut y dylen ni ymateb fel gweithiwr. 

Er bod croeso i chi ddefnyddio unrhyw beth rydych chi’n ei ddysgu yn eich gweithle neu yn eich gyrfa os yw’n briodol, nid bwriad Gofyn i Fi yw rhoi sgiliau i chi ar gyfer unrhyw swydd benodol ac nid yw wedi’i fwriadu fel cymeradwyaeth neu i ddangos eich gallu i gyflogwyr. 

Os yw eich cyflogwr yn gadael i chi wneud y cwrs hwn yn ystod oriau gwaith, mae’n bwysig eich bod eich dau’n deall nad yw Gofyn i Fi yn cymryd lle unrhyw hyfforddiant y gallai fod angen i chi ei wneud fel rhan o’ch swydd e.e. “Gofyn a Gweithredu” i weithwyr sector cyhoeddus, hyfforddiant ymwybyddiaeth Cam-drin Domestig, hyfforddiant diogelu ac ati. 

Rwy’n deall nad yw “Gofyn i Fi” yn cymryd lle unrhyw hyfforddiant statudol neu yn y gweithle y gallai fod angen i fi ei gwblhau *

Rydym yn cydnabod y gall llawer o'n mynychwyr gael profiadau personol o gam-drin ac rydym yn croesawu'r cyfraniad gwerthfawr y gall goroeswyr ei wneud. Fodd bynnag, efallai na fydd y cwrs hwn yn ddiogel i bobl sy'n profi cam-drin ar hyn o bryd nac i oroeswyr sy'n angen cymorth ar gyfer eu profiadau eu hunain yn gyntaf. 

Byddwn yn edrych ar sefyllfa pawb yn unigol ond o dan yr amgylchiadau uchod, bydd angen i ni sgwrsio â chi yn gyntaf fel y gallwn i gyd gytuno ar yr hyn sy'n teimlo'n fwyaf diogel i bawb. *
Ydych chi'n byw, gweithio, astudio neu wirfoddoli yng Nghymru ar hyn o bryd? *
O ba ardal ydych chi'n ymgeisio? *