Ymunwch â ni i gydweithio i ddileu pob math o drais yn erbyn menywod.
Dod yn gefnogwr
Os ydych chi’n awyddus i gefnogi ein gwaith ac am drafod eich syniadau, mawr neu fach, byddai ein tîm codi arian wrth eu bodd yn clywed gennych. Cysylltwch os gwelwch yn dda â [email protected].
Dod yn aelod
Gweithio gyda’n gilydd i gefnogi goroeswyr
Mae ein haelodaeth yn cynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n darparu cymorth sy’n achub bywydau i oroeswyr trais a cham-drin – menywod, dynion, plant a theuluoedd – ledled Cymru.
Gyda’n gilydd rydym ni’n ffederasiwn o sefydliadau arbenigol, sy’n gweithio fel rhan o rwydwaith yn y DU i ddarparu gwasanaethau ataliol mewn cymunedau lleol yn ogystal â llais cyfunol cryf.
Fel aelod byddwch yn derbyn:
- Cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygu polisïau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
- Cyngor a gwybodaeth ar ddarparu gwasanaethau arbenigol, canllawiau polisi ac ymarfer a gwybodaeth a chymorth ymarferol yn ymwneud ag Adnoddau Dynol a materion datblygu busnes.
- Darpariaeth cyflenwi y tu allan i oriau a dargyfeirio galwadau at y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
- Cymhwystra i ymgeisio am achrediad cenedlaethol drwy Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru
- Rhwydwaith i Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwr gael rhannu syniadau ac arferion mewn perthynas â gwaith sy’n ymwneud â llywodraethu, datblygu strategol a gweithio mewn partneriaeth, gyda chymorth Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru
- Mynediad at adroddiadau dadansoddi data cenedlaethol a rhanbarthol i gynorthwyo asesiadau anghenion lleol, datblygu busnes a chodi arian
- Mynediad gostyngol i hyfforddiant sydd wedi’i achredu, seminarau a digwyddiadau arbenigol
I wybod mwy am ddod yn aelod, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Gwirfoddoli
Ein helpu ni i greu newid
Helpwch ni i weithio tuag at greu cymdeithas lle mae pawb yn byw yn rhydd rhag trais a cham-drin. Gwirfoddolwch gyda Cymorth i Ferched Cymru!
Yn arbennig, rydym ni bob amser yn chwilio am bobl sydd â sgiliau ym meysydd cyfathrebu, y cyfryngau a gweinyddu.
I wybod rhagor, ebostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.
Gweithio gyda goroeswyr
Os ydych chi’n oroeswr sydd â diddordeb mewn cefnogi neu gymryd rhan yn ein gwaith, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Mae eich profiadau a’ch anghenion yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni am sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu eich llais. I wneud hynny, mae angen eich help.
I wybod rhagor, ebostiwch [email protected] neu [email protected] os gwelwch yn dda.