- Ydych chi’n angerddol am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched?
- Oes gennych chi ychydig o amser rhydd yr hoffech chi ei dreulio yn gwirfoddoli?
- Oes gennych chi brofiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol?
- Ydych chi’n gallu mynychu ein swyddfa ym Mhentwyn yn rheolaidd?
Os felly, mae Cymorth i Ferched Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ein tîm hyfforddi i gyflwyno ein pecyn o gyrsiau achrededig i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
Gellir trafod y dyddiau a’r oriau yr wythnos.
Byddai’r rôl yn cynnwys:
- Darparu cefnogaeth weinyddol yn y swyddfa gefn i’n tîm o hyfforddwyr
- Ymateb i ymholiadau pwynt cyntaf
- Cynorthwyo’r Cydlynydd Hyfforddiant Cenedlaethol i gynllunio a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymorth i Ferched Cymru.
Byddai’r rôl hon yn berffaith i rywun sy’n dymuno datblygu eu sgiliau gweinyddol a chael profiad o weithio yn y sector VAWDASV (trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol).
Os yw hyn swnio’n rhywbeth y gallech chi ei wneud – llenwch ein ffurflen gais a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.
Eisiau gwybod mwy? Croeso i chi cysylltu ni i trafod yr cyfleoedd mwy:
Ebost [email protected]
Ffoniwch 02920 541551.
Mae’r swyddi hon yn agored i fenywod yn unig, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw o fod yn fenyw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad yn lle cynhwysol i weithio. Rydym yn annog ceisiadau gan fenywod o bob cefndir a chymuned bydd ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.