Pam na wnewch chi ystyried ffurfio partneriaeth gyda Cymorth i Ferched Cymru? Byddech chi’n bodloni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich cwmni, gan greu gweithle hapusach, mwy bodlon, a chael effaith gadarnhaol enfawr ar ein gwaith ac ar fywydau goroeswyr trais a chamdriniaeth ledled Cymru.
Gallai eich cwmni helpu drwy wneud y canlynol:
- Gwneud Cymorth i Ferched Cymru yn Elusen y Flwyddyn eich cwmni
- Gwneud rhodd ariannol neu roddion o fath arall
- Trefnu digwyddiad codi arian yn y gweithle
- Noddi digwyddiad academaidd neu gynadleddau
- Hyrwyddo Cymorth i Ferched Cymru gyda chynllun rhoi drwy’r gyflogres
- Ymuno â ni fel Cefnogwr Sefydliadol
- Rhowch ganran o werthiannau. E-bostiwch ni ynglŷn â chreu Cytundeb Cyfranogiad Masnachol
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
- Cyfleoedd datblygu staff drwy fentora neu gynlluniau eraill
- Cyfleoedd i rwydweithio a dysgu drwy ddigwyddiadau Cymorth i Ferched Cymru
- Cymorth a hyfforddiant i ddatblygu eich polisi ac arferion o ran cam-drin domestig yn y gweithle
- Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus – byddwn ni’n gweithio gyda chi i sicrhau y caiff ein partneriaeth ei hyrwyddo.
Cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau drwy gysylltu â [email protected].
Lawrlwythwch ein taflen codi arian isod neu cysylltwch â’n tîm codi arian os hoffech chi dderbyn taflenni neu adnoddau codi arian eraill drwy’r post.