Milltir y Dydd Ym Mis Mai

Am y tro cyntaf, mae elusennau trais yn erbyn menywod yng Nghymru yn dod at ei gilydd ar gyfer her newydd i gefnogwyr!

Mae her Milltir y Dydd ym Mis Mai yn gydweithrediad rhwng Cymorth i Ferched Cymru a’n chwaer-elusennau sy’n gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru.

Dewiswch gerdded, olwyno, rhedeg, beicio, nofio neu hyd yn oed hopian eich ffordd drwy’r her ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru neu ar gyfer yr elusen o’ch dewis sy’n cymryd rhan. Milltir y Dydd ym Mis Mai, eich ffordd eich hun.

 

Sut i gymryd rhan?

Dim ond dilyn y camau hyn:

  1. Crëwch eich tudalen noddi bersonol ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru.
  2. Gosodwch eich targed codi arian.
  3. Cyrchwch eich asedau codi arian digidol.
  4. Rhannwch eich tudalen a’ch cynlluniau gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.
  5. Cwblhewch eich 31 milltir ym mis Mai.

 

Pam cymryd rhan?

Fel llawer o elusennau, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd goroesi yn yr hinsawdd ariannol heriol hon.  Wrth weithio gyda’n gilydd drwy rannu’r her hon a’n hadnoddau, bydd ein gallu cyfunol i godi arian ac ymwybyddiaeth yn cael hwb yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed. Cefnogwch Cymorth i Ferched Cymru a chymerwch ran yn yr her hon, i helpu i sicrhau newid sy’n para.  Ni ddylai unrhyw un wynebu unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, ac mae angen gwasanaethau cryf a chynaliadwy arnom er mwyn cael unrhyw siawns o wneud iddo stopio.

Fel diolch am gymryd rhan a chodi arian ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru, byddwch hefyd yn derbyn:

  • Cefnogaeth gan ein tîm bob cam o’r ffordd.
  • Mynediad i’n hadnoddau ar gyfer yr her gan gynnwys pecyn cymorth, ffurflen gwneud rhodd a thraciwr milltiroedd.
  • Awgrymiadau gwych ar gyfer gwneud y mwyaf o’ch gwaith codi arian.
  • Gwahoddiad i ymuno â’n grŵp her ar Facebook.

 

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr her hon, cysylltwch yn uniongyrchol: [email protected].

 

Cofrestrwch nawr…

 

Mae partneriaid her Milltir y Dydd ym Mis Mai yn cynnwys: