Ymunwch â Thîm Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 4 Hydref 2026.
Cymerwch ran yn yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU a gwnewch wahaniaeth go iawn i oroeswyr camdriniaeth a thrais ledled Cymru.
Bydd ein rhedwyr yn derbyn:
- Fest redeg Cymorth i Ferched Cymru am ddim pan fyddwch chi’n codi £100.
- Pecyn cymorth ac adnoddau codi arian digidol i’ch helpu i gyrraedd eich nodau.
- Cylchlythyrau tîm rheolaidd a sgyrsiau grŵp i’ch ysbrydoli a’ch cymell drwy’r cyfan.
- Cefnogaeth ymroddedig gan ein tîm codi arian bob cam o’r ffordd.
Lleoedd elusennol
I ymuno â thîm Cymorth i Ferched Cymru gydag un o’n lleoedd elusennol, bydd angen i chi i…
- Dalu blaendal o £20 i sicrhau eich lle.
- Ymrwymo i darged codi arian o £275 o leiaf.
- Codi £100 erbyn 31 Awst.
Mae ein lleoedd elusennol ar gyfer 2026 yn llawn. Ymunwch â’n rhestr aros nawr!
Oes gennych chi eich lle eich hun?
Os oes gennych chi eich lle eich hun eisoes a hoffech chi redeg er budd Cymorth i Ferched Cymru, llenwch y ffurflen gofrestru isod i ymuno â’n tîm os gwelwch yn dda.
Cofrestrwch yma i ymuno â’n tîm!
Byddwch yn ein helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru; darparu’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn genedlaethol 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn ein cymunedau; ymgyrchu dros bolisïau a gwasanaethau effeithiol; a darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol.
Darllenwch am brofiadau Kirsty o redeg Hanner Marathon Caerdydd yma.