Ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn 2025, mae elusennau trais yn erbyn menywod yng Nghymru yn ymuno unwaith eto!
Mae her Milltir y Dydd ym Mis Mai yn gydweithrediad rhwng Cymorth i Ferched Cymru a’n chwaer elusennau sy’n gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru.
Dewiswch gerdded, olwyno, rhedeg, beicio, nofio neu hyd yn oed hopian eich ffordd drwy’r her ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru neu ar gyfer yr elusen o’ch dewis sy’n cymryd rhan. Milltir y Dydd ym Mis Mai, eich ffordd eich hun.
Pam cymryd rhan?
Cam-drin domestig, trais rhywiol, ffugiadau dwfn, pornograffi, cam-drin yn ystod plentyndod, aflonyddu rhywiol…Mae ym mhobman, mae’n gyson, ac mae’n gwaethygu.
Gyda’n gilydd, mae ein gallu ar y cyd i wneud safiad a chreu newid yn cael ei gryfhau.
Mae angen eich cefnogaeth chi arnom yn fwy nag erioed. Cefnogwch Cymorth i Ferched Cymru a chymerwch ran yn yr her hon. Ni ddylai unrhyw un wynebu unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, ac mae angen gwasanaethau cryf a chynaliadwy arnom er mwyn cael unrhyw siawns o wneud iddo stopio.
Fel diolch am gymryd rhan a chodi arian ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru, byddwch hefyd yn derbyn:
- Cefnogaeth gan ein tîm bob cam o’r ffordd.
- Mynediad i’n hadnoddau ar gyfer yr her gan gynnwys pecyn cymorth, ffurflen gwneud rhodd a thraciwr milltiroedd.
- Awgrymiadau gwych ar gyfer gwneud y mwyaf o’ch gwaith codi arian.
- Gwahoddiad i ymuno â’n grŵp her ar Facebook.
Sut i gymryd rhan?
Dim ond dilyn y camau hyn:
- Crëwch eich tudalen noddi bersonol ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru: https://www.justgiving.com/campaign/amileadayinmayforwwa2026
- Gosodwch eich targed codi arian.
- Cyrchwch eich asedau codi arian digidol.
- Rhannwch eich tudalen a’ch cynlluniau gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.
- Cwblhewch eich 31 milltir ym mis Mai. Dim problem – gosodwch darged mwy heriol a dechreuwch!
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr her hon, cysylltwch yn uniongyrchol: [email protected].
Mae partneriaid her Milltir y Dydd ym Mis Mai yn cynnwys: