Gwnewch wahaniaeth a rhowch anrheg heddiw.
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnig gobaith i’r miloedd o fenywod sydd wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin ac sydd angen ein help bob blwyddyn. Drwy sefydlu rhodd reolaidd heddiw gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth parhaus i fywydau’r goroeswyr hyn a’u teuluoedd a’n helpu ni i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod am byth.
Drwy ddewis rhoi yn fisol, byddwch yn helpu Cymorth i Ferched Cymru i wneud gwelliannau hirdymor i oroeswyr cam-drin a thrais ledled Cymru drwy ein gwaith.
Ni fydd eich rhodd reolaidd yn cael ei chyfyngu i un prosiect ond caiff ei defnyddio lle bynnag y bydd ei hangen fwyaf i helpu goroeswyr trais. Hebddoch chi, ni all Cymorth i Ferched barhau â’n gwaith achub bywydau sy’n helpu menywod a phlant i ddod o hyd i ffordd ymlaen a dianc rhag trais am byth.
Helpwch ni i fod yna pan fydd fwyaf o bwys.