
Os wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am yr hyn sy’n digwydd yn dy gartref
Wyt ti’n poeni am gam-drin domestig gartref neu wyt ti’n meddwl dy fod mewn perthynas ddrwg? Mae cymorth a chyngor ar gael i ti. Ambell waith mae’n anodd dweud beth sydd ar dy feddwl ond gall siarad â rhywun dy helpu di i ymdopi ag anawsterau.
Cadw’n Ddiogel
Mae’n bwysig meddwl am gadw’n ddiogel. Gallwn ni dy helpu di drwy siarad drwy dy wahanol opsiynau.
Gyda phwy gelli di siarad?
Mae llawer o lefydd i gael cymorth a chyngor ar gam-drin domestig, fel siarad ag un o’r canlynol
- athro
- tiwtor
- rhiant
- perthynas
- nyrs ysgol
- cwnselydd
- oedolyn gelli di ymddiried ynddo
Mae angen bod yn ddewr iawn i ofyn am gymorth ac mae dod o hyd i berson rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus gyda nhw hefyd yn bwysig. Mae rhai plant a phobl ifanc yn dweud wrthym ni ei bod yn haws ambell waith siarad â rhywun sydd ddim yn eu hadnabod. Mae dod o hyd i’r amser neu’r geiriau iawn yn gallu bod yn anodd, felly efallai byddai’n syniad i ti ysgrifennu’r hyn rwyt ti’n dymuno ei ddweud.
Dyma rai awgrymiadau:
Os wyt ti’n’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am dy berthynas di neu am berthynas rhywun arall
Beth yw cam-drin domestig?
Cam-drin domestig yw un person yn camddefnyddio pŵer a rheolaeth dros un arall; nid yw hyn yn normal ac nid yw hyn byth yn iawn.
Os wyt ti mewn perthynas gyda rhywun, dylet ti deimlo:
- cariad
- ymddiriedaeth
- diogelwch
- parch
- yn rhydd i fod yn ti dy hun.
Os yw dy berthynas yn gwneud i ti deimlo:
- yn ofnus
- dan fygythiad
- dan reolaeth
mae’n bosib dy fod ti’n profi cam-drin domestig.
Ambell waith mae’n anodd gweld bod cam-drin domestig yn digwydd, yn enwedig os oes gennyt ti deimladau cryf am y person hwnnw. Mae’n gallu bod ar sawl ffurf wahanol – gall fod yn gorfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol.
Dyma rai enghreifftiau:
Os wyt ti wedi ateb ‘ie’ i lawer o’r cwestiynau a bod rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn arddangos llawer o’r nodweddion hyn, gallai fod yn arwydd bod angen iddyn nhw ystyried effaith eu hymddygiad ar bobl eraill. Mae’n bwysig egluro y gall pob un ohonom ni ymddwyn mewn ffyrdd sy’n cynnwys rhai o’r ymddygiadau hyn, efallai’n anaml neu fel jôc. Ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio i reoli person arall, gallai hyn fod yn arwydd o berthynas o gam-drin.
Diogelwch sy’n dod gyntaf
Os wyt ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod mewn perthynas o gam-drin mae rhai pethau y gelli di eu gwneud:
- siarad gyda rhywun – oes gennyt ti oedolyn diogel y gelli di siarad â nhw ac rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw? Gallai fod yn athro, perthynas neu weithiwr cymorth
- Ffonia Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim.