Os ydych chi’n rhiant sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc a allai fod yn profi cam-drin domestig neu mewn perygl o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu a chael cyngor cyfreithiol brys drwy ffonio 999.
I gael cyngor, gwybodaeth a chymorth, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – gwasanaeth 24/7 am ddim sy’n cefnogi pawb, p’un a ydych yn cael eich cam-drin eich hun neu’n poeni am rywun rydych chi’n ei adnabod, gall y llinell gymorth wrando ar eich pryderon a chyfeirio os oes angen.
- Ffoniwch 0808 80 10 800
- Testun 07860 077333
- E-bost [email protected]
- Gwe-sgwrs https://gov.wales/live-fear-free/domestic-abuse-wales
Mae cred gyffredin y bydd Gwasanaethau Plant (gweithwyr cymdeithasol) yn gosod plant mewn gofal yn awtomatig os ydyn nhw’n dod o gartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Mae hyn yn ddigwyddiad prin iawn. Mae gan y Gwasanaethau Plant, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill ganllawiau cenedlaethol ar eu dyletswydd i gymryd gofal arbennig i helpu i ddiogelu a hyrwyddo lles y plant a’r bobl ifanc a allai fod yn byw mewn amgylchiadau o straen arbennig, sy’n cynnwys teuluoedd lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.
Mae rhagor o wybodaeth am Orchmynion Trefniadau Plant a’r Llysoedd Teulu ar gael gan Rights of Women a Cafcass Cymru.
Arwyddion y gallai eich arddegwr fod mewn perthynas o gam-drin:
Gall perthnasoedd camdriniol fod yn anodd i’r person ifanc a’r rhiant eu mynegi. Mae pobl ifanc yn dysgu sut i ffurfio perthnasoedd o’r hyn maen nhw’n ei weld o’u cwmpas. Oherwydd hyn, mae’n bwysig addysgu pobl ifanc sut olwg sydd ar berthnasoedd iach a pherthnasoedd amhriodol, a sut i adnabod ymddygiad camdriniol.
Mae rhai arwyddion o berthnasoedd drwg yn cynnwys:
- ynysu – ddim yn treulio amser gyda chi neu eu cylch arferol o ffrindiau bellach
- bod yn fwy mewnblyg neu’n ddistawach nag arfer
- ymateb yn ddig neu’n groendenau os oes rhywun yn gofyn sut mae pethau’n mynd
- pryder yn ystod ‘amser di-ffôn’
- newid personoliaeth sydyn heb esboniad, hwyliau cyfnewidiol ac ymddangos yn ansicr
- gwneud esgusodion dros bartner
- arwyddion o anafiadau corfforol
- triwanta
- dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
- hunan-anafu a meddyliau am hunanladdiad
Gall fod agweddau ac ymddygiadau i edrych amdanyn nhw mewn plant a phobl ifanc hefyd, er enghraifft:
- credu bod ganddyn nhw’r hawl i reoli pobl eraill
- credu ei bod yn iawn dangos gwrywdod drwy ymosodiad corfforol
- mynnu agosatrwydd
- credu y byddan nhw’n colli parch os ydyn nhw’n ofalgar a chefnogol i rieni/gofalwyr
- credu nad yw dynion a menywod yn gyfartal
Beth gallwch chi ei wneud i helpu?
- siarad gyda nhw am berthnasoedd iach e.e. beth ddylen nhw ei ddisgwyl
- siarad gyda nhw’n gyffredinol – meithrin ymddiriedaeth a bod yn agored gydag arddegwyr
- modelu perthnasoedd iach
- cael cymorth arbenigol iddyn nhw, er enghraifft, gan y gwasanaethau cam-drin domestig lleol
- eu cynghori nhw i ffonio ChildLine 0800 11 11
- rhoi rhif Llinell Gymorth Byw Heb Ofn iddyn nhw 0808 80 10 800
Ffynhonnell: ‘Do you know if your teenager is in an abusive relationship?’