Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru

Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gymryd rhan yn ein hymgyrch Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru!

Ymunwch ar ddydd Gwener 8 Mawrth, neu unrhyw adeg yn ystod y mis, i ddangos eich cefnogaeth i oroeswyr ledled Cymru.

Mae’n ffaith drist y bydd 1 o bob 3 menyw rydych chi’n eu hadnabod yn profi rhyw fath o drais yn ystod eu hoes. Mae angen i hyn ddod i ben – a gallwch CHI wneud gwahaniaeth!

Sefwch gyda Cymorth i Ferched Cymru trwy gofrestru nawr i gynnal digwyddiad Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru a chael mynediad at eich adnoddau ymgyrchu.

  1. Gwnewch adduned i’n cefnogi ni trwy gynnal digwyddiad Cacennau Cri, penderfynwch ar eich cynlluniau a sefydlwch eich tudalen codi arian.

  2. Trefnwch fore coffi wyneb yn wyneb neu rithwir gyda chydweithwyr neu ffrindiau.

  3. Cofrestrwch nawr i gynnal digwyddiad pobi ym mis Mawrth eleni drwy ein hymgyrch Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru!