Rydym ni’n croesawu adborth yn Cymorth i Ferched Cymru i’n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae ein polisi yn esbonio’n fanylach sut y byddwn yn rheoli ac yn ymateb i gwynion, adborth a sylwadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau a rhanddeiliaid eraill, ac unigolion eraill, am wasanaethau Cymorth i Ferched Cymru a sut y caiff y rhain eu defnyddio i wella ystod ac ansawdd y gwasanaethau a ddarparwn.
Sut i ddarparu adborth
Os oes gennych chi adborth neu sylw am sut y gallai ein gwasanaethau wella, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi. Anfonwch e-bost os gwewlch yn dda at [email protected] neu ysgrifennwch at: Rheolwr Cymorth AD a Busnes, Cymorth i Ferched Cymru, Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Pentwyn, CF23 8XE. Byddwn yn sicrhau bod eich sylwadau yn cael eu trosglwyddo i’r person, tîm neu’r gwasanaeth perthnasol.
Os ydych chi’n anhapus ac yn dymuno cwyno
Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn, mae hawl gennych gwyno. Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn ymchwilio yn brydlon, ac yn gweithio gyda chi i unioni pethau cyn gynted â phosibl. Bydd Cymorth i Ferched Cymru yn delio â phob cwyn mewn ffordd deg a thryloyw. Anfonwch e-bost os gwewlch yn dda at [email protected] neu ysgrifennwch at: Rheolwr Cymorth AD a Busnes, Cymorth i Ferched Cymru, Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Pentwyn, CF23 8XE.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth
Gellir datrys llawer o gwynion yn anffurfiol ac, os ydych chi’n teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hynny, dylech siarad yn y lle cyntaf â’ch gweithiwr allweddol arferol yn Cymorth i Ferched Cymru a fydd yn gwneud ei orau i geisio datrys eich mater. Os nad ydych yn teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hynny gallwch ofyn am gael siarad â’i reolwr. Os gall y gweithiwr neu’r rheolwr allweddol ddatrys eich cwyn ei hun, bydd yn gwneud hynny.
Os ydych chi am wneud cwyn ffurfiol, naill ai ar ôl ceisio ei datrys yn anffurfiol neu’n syth, gallwch wneud hynny trwy ei nodi’n ysgrifenedig. Os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, gofynnwch i aelod o staff os gwelwch yn dda a gallwn eich cefnogi i wneud hyn. Gallwch anfon e-bost at [email protected] neu ei anfon trwy’r post at y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Gweithrediadau, Cymorth i Ferched Cymru, Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Pentwyn, CF23 8XE.
Byddwn yn ymateb cyn pen 5 niwrnod gwaith i’ch cwyn gychwynnol a rhown wybod i chi a oes angen cynnal ymchwiliad pellach. Byddwn yn eich hysbysu am hynt eich cwyn drwy roi amserlen fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl.
Os na fu’n bosibl sicrhau datrysiad boddhaol i’ch cwyn, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu gan rywun uwch.
Os yw’r gŵyn yn ymwneud ag Uwch Reolwr, Cyfarwyddwr neu Brif Swyddog Gweithredol, rhaid i reolwr uwch neu Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr arwain ar ddatrys y gŵyn, fel sy’n briodol.
Os ydych chi am gwyno am aelod sy’n torri Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru
Lawrlwythwch y polisi hwn i gael manylion llawn.
Os ydych chi’n aelod o Cymorth i Ferched Cymru, yn rhanddeiliad arall, neu’n unigolyn
Dylech gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig a’i hanfon trwy e-bost at [email protected] neu ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Gweithrediadau, Cymorth i Ferched Cymru, Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Pentwyn, CF23 8XE.
Byddwn yn ymateb cyn pen 5 niwrnod gwaith i’ch cwyn gychwynnol ac yn rhoi gwybod ichi a oes angen cynnal ymchwiliad pellach. Byddwn yn eich diweddaru gydag amserlen fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Bydd yr Uwch Reolwr mwyaf priodol yn delio â hyn. Dylai cwyn ddarparu cymaint o fanylion â phosibl am yr hyn yw’r broblem a sut hoffai’r achwynydd ei gweld yn cael ei datrys.
Os na fu’n bosibl sicrhau datrysiad i’ch cwyn sy’n foddhaol, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu gan rywun uwch.
Os yw’r gŵyn yn ymwneud ag Uwch Reolwr, Cyfarwyddwr neu Brif Swyddog Gweithredol, rhaid i reolwr uwch neu Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr arwain ar ddatrys y gŵyn, fel sy’n briodol.
Gofalu am eich gwybodaeth bersonol
Mae pob cwyn a wneir yn cael ei thrin yn gyfrinachol a byddwn yn rhoi rhybudd preifatrwydd i chi sy’n egluro pa wybodaeth a gasglwn a beth a wnawn â’r wybodaeth hon a chyda phwy y bydd yn cael ei rhannu.
Os ydych chi am drafod eich cwyn, adborth neu sylw gyda rhywun ar unrhyw adeg yn ystod y broses, ffoniwch ein swyddfa ar 02920 541551 os gwelwch yn dda.