Beth yw aflonyddu rhywiol a stelcio?
Aflonyddu rhywiol yw unrhyw ymddygiad digroeso o natur rywiol a all achosi tramgwydd neu ofid neu a fydd yn bygwth neu’n bychanu person.
Mae sawl math o aflonyddu rhywiol, gall ymddangos fel hyn:
- gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol diraddiol
- syllu neu gilwenu
- jôcs neu gynigion rhywiol digroeso neu amhriodol
- negeseuon e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu negeseuon testun â chynnwys rhywiol
- cynigion rhywiol a chyffwrdd digroeso, mathau o ymosodiad rhywiol
- arddangos lluniau rhywiol amlwg mewn lle cyhoeddus, fel yn y gweithle
Mae aflonyddu rhywiol yn aml yn digwydd mewn mannau cyhoeddus, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn ysgolion.
Mae dau fframwaith cyfreithiol sy’n gwneud Aflonyddu Rhywiol a Stelcio yn drosedd, sef Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
Nid oes diffiniad cyfreithiol o stelcio ond mae ymddygiadau a allai fod yn stelcio yn cynnwys, dilyn, cysylltu neu geisio cysylltu â rhywun, monitro’r cyfyngau cymdeithasol neu ddull cyfathrebu arall, loetran mewn lle cyhoeddus neu breifat, gwylio neu ysbïo ar berson ac ymyrryd ag eiddo neu feddiannau person.
I gael cymorth
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.