Dos and don’ts
Mae’r fideo hwn ar gael mewn llu o ieithoedd gwahanol – cliciwch yma i wylio.
Os ydych chi’n poeni bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn profi, neu’n oroeswr, cam-drin neu drais domestig, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud. Ond nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gefnogi goroeswr. Mae ychydig o awgrymiadau gennym ni i’ch helpu chi.
Yn gyntaf, os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu os ydych chi’n dyst i gam-drin, dylech bob amser ffonio 999.
Gair i gall
- Gwrandewch. Gadewch i’r person ddweud wrthych chi yr hyn y mae angen ei ddweud, hyd yn oed os yw’n anodd clywed hyn, a chredwch y person.
- Byddwch yn amyneddgar os nad yw’n ymddiried ynoch chi ar unwaith, a pheidiwch â phwyso am unrhyw wybodaeth cyn bod y person arall yn barod. Gall gymryd amser i rywun adnabod cam-drin.
- Ceisiwch beidio â tharfu ar y person, hyd yn oed os oes gennych chi lawer o gwestiynau. Weithiau mae’n demtasiwn i wneud cynlluniau a rhoi cyngor ond ceisiwch beidio â gwneud hyn. Cefnogwch a grymuswch y goroeswr i archwilio’i deimladau a gwneud ei benderfyniadau ei hun.
- Parchwch benderfyniadau’r person hyd yn oed os ydyn nhw’n wahanol i’r penderfyniadau y byddech chi’n eu gwneud.
- Peidiwch â barnu’r person neu gwestiynu profiadau’r person. Mae’n anodd iawn bod yn agored am gam-drin ac efallai bod y person wedi ceisio dweud wrth rywun a oedd wedi’i anwybyddu neu heb ei gredu yn y gorffennol.
- Cofiwch fod datgelu cam-drin yn broses a bod taith pob goroeswr yn wahanol.
Cyfeirio
Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.
Gallai fod yn ddefnyddiol gwybod ble i gyfeirio goroeswr am fwy o gymorth.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Ffôn 0808 80 10 800
- E-bost [email protected]
- Testun 07860 077333
- Ewch i https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free i ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.
Os ydych chi’n poeni am blentyn ac yn ansicr am yr hyn y gallwch chi ei wneud, ffoniwch yr NSPCC ar 0808 800 500.
Fel rhan o brosiect Gofyn i Fi, mae Cymorth i Ferched Cymru yn darparu hyfforddiant a chymorth parhaus am ddim sy’n helpu aelodau’r gymuned i gychwyn sgyrsiau am gam-drin, i wybod ble mae cymorth ar gael ac i wybod sut i gynnig ymatebion cefnogol i unrhyw berson sy’n rhannu profiadau o gam-drin. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am brosiect Gofyn i Fi yma.
Gofalu am eich hunan
Gall siarad â rhywun am brofiadau’r person hwnnw o gam-drin neu drais sbarduno emosiynau cymhleth neu hyd yn oed atgofion poenus i chi’ch hun. Mae ffiniau iach, hunan-ofal, a bod yn ymwybodol o’ch gallu emosiynol eich hun i gefnogi eraill yn bwysig i’ch galluogi chi i roi ymatebion defnyddiol i oroeswyr. Felly sicrhewch eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch. Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael i unrhyw un sy’n poeni os oes angen i chi siarad.
Mae gan y mwyafrif o wasanaethau trais domestig gymorth ar gael a gallant gynnig awgrymiadau o ran y camau eraill y gallech chi eu cymryd. Ewch i dudalen gwasanethau lleol i wybod mwy am wasanaethau yng Nghymru.