Cyflwynir cwrs ar-lein Gofyn i Fi dros ddwy sesiwn dair awr o hyd ar Zoom a bydd angen i’r dysgwyr fod yn bresennol yn y ddwy sesiwn.
Cliciwch isod i weld enghraifft o PDF hunan-astudio:
Ydy’r cwrs hwn yn iawn i fi?
Mae dysgu ar-lein yn rhywbeth newydd i lawer ohonon ni ac efallai ein bod am holi a fyddai’n gweithio i ni. Dilynwch y gwymplen isod am fwy o wybodaeth neu os na chewch chi ateb i’ch cwestiwn, cysylltwch â ni: [email protected]
Cwestiynau Cyffredin
Beth os na allaf ddod i bob un o’r gweithdai Zoom?
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gael ei gwblhau mewn trefn felly bydd angen i chi gwblhau modiwlau cynharach cyn symud ymlaen ac fel arfer ni fyddwn yn ystyried eich bod wedi cwblhau modiwl os nad ydych chi wedi gwneud y gweithdy a’r hunan-astudio.
Pan fo’n bosib, rydyn ni’n gofyn i chi gofrestru ar gwrs dim ond os ydych chi’n eithaf siŵr y byddwch yn gallu dod i bob un o’r gweithdai Zoom.
Rydyn ni’n deall bod pethau annisgwyl yn gallu codi. Os yw hyn yn digwydd byddwn ni’n gwneud ein gorau i helpu ac, os gallwn ni gynnig amser gweithdy arall, byddwn yn gwneud hynny. Ambell waith efallai na fydd hyn yn bosib a bydd y cydlynydd yn trafod eich opsiynau gyda chi.
Er mwyn cael y gefnogaeth ddilynol (grwpiau Facebook, cefnogaeth cyfoedion, cyfarfodydd, cylchlythyrau) bydd rhaid cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Beth bydd ei angen arnaf i er mwyn cymryd rhan?
Dyfais addas – Bydd angen i chi gael defnydd o ddyfais sy’n gallu agor PDFs, agor ebost, rhedeg Zoom a defnyddio camera a meicroffon er mwyn i chi gael eich gweld a’ch clywed. Gallai hyn fod yn ffôn symudol, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur desg.
Cyswllt rhyngrwyd – Bydd angen i chi gael cyswllt rhyngrwyd sy’n gallu gweithio meddalwedd fideogynadledda fel Zoom. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio data symudol mewn ardal lle mae’r signal yn wan, os ydych chi’n bell o’r llwybrydd (router) WiFi neu os ydych chi’n gwybod bod eich cyswllt rhyngrwyd yn ansicr, mae’n syniad da gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio ymlaen llaw.
Preifatrwydd – Bydd angen rhywle tawel, preifat ar gyfer y gweithdai Zoom. I sicrhau eich preifatrwydd chi a phreifatrwydd pobl eraill yn y gweithdy rydyn ni’n gofyn i chi wneud eich gorau i wneud yn siŵr na all neb arall yn eich cartref glywed y sgwrs e.e. drwy ddefnyddio clustffonau neu fynd i ystafell dawel. Nodwch fod y cwrs ar gyfer pobl dros 18 oed felly ni ddylai plant fod yn bresennol yn y gweithdai Zoom oherwydd gallech deimlo nad yw’r holl sgyrsiau yn addas iddyn nhw eu clywed.
Faint o ddarllen sydd ei angen?
Er ein bod wedi ceisio defnyddio cynifer o fideos a recordiadau sain ag y gallwn ni, gallai’r cwrs fod yn anodd i bobl sydd heb hyder wrth ddarllen Saesneg. Rydyn ni’n gobeithio gallu cynnig opsiwn gyda llai o ddarllen neu ddim darllen o gwbl yn y dyfodol ond, yn y cyfamser, gallai rhai pobl ddymuno aros am gwrs wyneb yn wyneb addas.
Er mwyn gweld lefel y darllen sydd ei angen, gallwch weld un o’n modiwlau hunan-astudio yma .
Pa mor abl sydd angen i fi fod gyda TG?
Er y byddwn ni’n gallu darparu cymorth sylfaenol gyda thechnoleg, bydd rhaid i chi allu agor ebost a PDFs, defnyddio porwr gwe a dilyn dolenni at fideos ac erthyglau, a dod i weithdy Zoom yn defnyddio meicroffon a chamera.
Os bydd digon o alw, gallwn ni drefnu sesiwn ymarfer ar Zoom cyn y cwrs er mwyn i bobl ddod i arfer gyda defnyddio Zoom ac ymarfer y gweithredoedd sylfaenol cyn dechrau’r cwrs.
Ydy’r cwrs yn addas i oroeswyr?
Ydy wir! Gall unrhyw un gymryd rhan yng nghynllun Gofyn i Fi, boed nhw’n oroeswr neu beidio ac mae llawer o’r rhai sy’n dilyn y cwrs yn oroeswyr. Ond mae rhai pethau y dylech chi feddwl amdanyn nhw cyn mynd ymlaen.
Os ydych chi’n cael eich cam-drin ar hyn o bryd meddyliwch a yw hi’n ddiogel i chi wneud y cwrs nawr . Er enghraifft, os ydych chi’n byw gyda rhywun sy’n eich cam-drin, neu os byddai’r person hwnnw’n dod i wybod am y cwrs, a fyddai hyn yn eich rhoi chi mewn perygl? Os ydych chi’n profi cam-drin ar hyn o bryd, cysylltwch â ni cyn cofrestru os gwelwch yn dda a hefyd, cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael am ddim drwy ein llinell Gymorth 24 awr Byw Heb Ofn .
Hyd yn oed os yw’r cam-drin yn hanesyddol a’ch bod yn ddiogel nawr, mae’n werth meddwl sut y byddech chi’n teimlo ar gwrs sy’n trafod cam-drin. Er ein bod yn gwneud popeth i wneud y cwrs mor ddiogel a chefnogol ag y gallwn, nid cwrs therapiwtig neu gefnogaeth yw hwn ac i rai pobl, efallai nad dyma’r adeg iawn iddyn nhw gymryd rhan.
Ydy’r cwrs yn addas i’r swydd bresennol sydd gen i neu i’r un yr hoffwn ei chael?
Cofiwch mai menter gymunedol yw Gofyn i Fi a’i nod yw ein helpu i weld yr hyn y gallwn ni ei wneud fel aelodau o’r gymuned i helpu i ddileu cam-drin, yn hytrach na helpu eich swydd chi.
Mae croeso wrth gwrs i chi ddefnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn eich gweithle neu’ch gyrfa os yw’n briodol. Ond nid bwriad Gofyn i Fi yw rhoi sgiliau ar gyfer unrhyw swydd benodol, na bod yn gymeradwyaeth neu ddangos gallu i gyflogwyr ac nid yw’n cymryd lle unrhyw hyfforddiant yn y gweithle y gallai fod angen i chi ei wneud fel rhan o’ch swydd.
Er mwyn cynnal y ffocws cymunedol a sicrhau lleisiau amrywiol yn yr ystafell, fel arfer byddwn yn cyfyngu unrhyw sefydliad unigol i 2 le ar y cwrs ac yn gofyn bod gan y rhai sy’n dod ddiddordeb mewn gweithredu yn eu cymunedau i helpu i ddileu trais yn erbyn menywod a merched.
(Nodwch os gwelwch yn dda fod cynllun gwahanol sydd ag enw tebyg – “gofyn a gweithredu” ar gael i weithwyr sector cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun hwnnw yn yr adran am Hyfforddiant.)
Mae gen i gwestiwn arall
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am Gofyn i Fi ar-lein neu os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, ebostiwch ni: [email protected]