Codwch arian i ni

Mae trais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb.

Gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth a lleihau, atal, a rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Gwnewch rodd heddiw!

Sut mae dechrau arni?

  • Ystyriwch godi arian ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu gydweithwyr, neu gyda‘ch grwpiau cymunedol lleol.
  • Byddwch yn greadigol! Allwch chi ddefnyddio’ch sgiliau, eich diddordebau, neu bobl ddefnyddiol yn eich rhwydweithiau?
  • Edrychwch ar ein cyfres o adnoddau sy’n cynnwys pecyn cymorth codi arian, ffurflen gwneud rhodd a phosteri.
  • Codwch arian eich ffordd chi a chrëwch dudalen codi arian ar gyfer gweithgaredd o’ch dewis chi. Gallwch chi greu eich tudalen ar JustGiving neu ar ein hwb codi arian ni, Raisely!
  • Cysylltwch i siarad â ni am eich cynlluniau codi arian. Gallwn ni helpu gydag unrhyw syniadau sydd gennych!

Oes angen rhywfaint o ysbrydoliaeth codi arian arnoch?

  • Mentrwch i’r awyr a thiciwch ‘plymio o’r awyr’ oddi ar eich ‘rhestr bwced’. Rydyn ni wedi partneru gyda Skyline Skydiving ar gyfer her wirioneddol epig. Cofrestrwch nawr!
  • Trefnwch noson gwis gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Beth am gynnwys raffl hefyd?
  • Cofrestrwch ar gyfer digwyddiadau yn eich ardal leol. Mae llu o ddigwyddiadau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw, gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau Codi Arian yma i weld yr holl opsiynau.
  • Dysgwch am ein hymgyrchoedd codi arian rheolaidd! Mae ein hymgyrch Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru yn cynnig ffordd felys o godi arian a bydd ein hymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu yn dychwelyd eto fis Tachwedd hwn.
  • Trefnwch lotri yn eich swyddfa. Mae’r Euros neu Gemau Olympaidd 2024 yn gyfle perffaith i gael eich cydweithwyr i gymryd rhan.

Ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi Cymorth i Ferched Cymru

  • Cofrestrwch i fod yn rhoddwr rheolaidd i’n helpu ni i wneud gwelliannau hirdymor i oroeswyr camdriniaeth a thrais ledled Cymru.
  • Dewch yn bartner corfforaethol. Gallech chi ein dewis ni fel eich Elusen ar gyfer y Flwyddyn neu gallech chi drefnu digwyddiadu codi arian yn y gweithle.
  • Dangoswch i’ch anwyliaid gymaint maen nhw’n ei olygu i chi a helpwch i’n cefnogi ni ar yr un pryd trwy anfon e-Gerdyn.

 

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Anfonwch e-bost atom i roi cychwyn ar eich taith codi arian [email protected].