Ymgyrch Big Give 2024

Photo of two smiling women with the text reading One donation, twice the impact. Make a difference today.

Helpwch ni i godi £10,000 gyda’n Hymgyrch Big Give

Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi’i dewis i gymryd rhan yng Nghronfa Arian Cyfatebol Big Give ar gyfer Menywod a Merched eleni!

Bydd pob rhodd hyd at £5,000 yn cael ei DYBLU rhwng 12pm ar 10 Hydref a 12pm ar 17 Hydref 2024.

Cam-drin domestig, aflonyddu rhywiol, rheolaeth trwy orfodaeth, treisio, priodas dan orfod, camfanteisio rhywiol… Mae’r rhain yn broblemau brawychus i ddarllen amdanyn nhw. Maen nhw hyd yn oed yn fwy brawychus i’w profi. Gallan nhw effeithio ar unrhyw un – ar unrhyw lefel incwm neu oedran, ac mewn unrhyw gartref, gweithle, neu leoliad cymunedol.  Nid oes y fath beth â goroeswr nodweddiadol.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn gweithio’n galed i atal trais rhag digwydd yn y lle cyntaf. Pan fydd yn digwydd, ein gwaith ni yw sicrhau bod goroeswyr yn gallu cael mynediad at gymorth diogel ac effeithiol.

Ond mae’n anodd helpu pan fyddwn ni’n wynebu heriau sylweddol ein hunain. Mae diffyg cyllido hanesyddol; cystadleuaeth ffyrnig am grantiau; galw cynyddol am gymorth; a staff yn gadael y sector am waith sy’n talu’n well ac sy’n llai heriol, i gyd yn broblemau enfawr.

Mae rhai o’n gwasanaethau mewn perygl. Rydyn ni wedi cael ein gorfodi i wneud diswyddiadau eleni ac rydyn ni o dan bwysau i ddarparu’n gwasanaethau gyda thîm llai.

Goroeswyr trais – sydd angen ac sy’n haeddu system gymorth gadarn o ansawdd da –  fydd ar eu colled yn y pen draw.

Purple square with white text reading Violence against women is everyone's business. One donation, twice the impact.

Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod yn fusnes i bawb. Fyddwch chi’n gwneud hyn yn fusnes i chi heddiw gan sicrhau bod eich rhodd yn cael ei dyblu?

Gallai cyrraedd targed ein hymgyrch o £10,000, er enghraifft:

  • Gadw ein Rhwydwaith Goroeswyr i fynd am 5 mis – sy’n hanfodol i dynnu sylw at leisiau goroeswyr a chreu newid.
  • Ein helpu i ddarparu 40 awr o hyfforddiant i gymunedau, ysgolion a phrifysgolion – gan ledaenu ymwybyddiaeth, annog y gwaith o atal, a sicrhau mynediad at gymorth.
  • Rhoi mynediad i 20 o wasanaethau cymorth rheng flaen i’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau effeithiol, o ansawdd da sydd wedi’u llywio gan drawma.
  • Tynnu sylw at y problemau sy’n effeithio ar oroeswyr ac ar wasanaethau, trwy gefnogi ein gwaith polisi strategol.

Cyfrannwch rhwng 10 a 17  Hydref os gwelwch yn dda i gael dwywaith yr effaith!