Rhybudd sbardun: cyfeirio manwl at drais a chamdriniaeth
Nid yw camdriniaeth yn broblem mewn perthnasoedd heterorywiol yn unig, mae’n bodoli ym mhob cymuned.
Mae profiad cymhleth ac unigryw llawer o bobl LHDTC+ yn gallu cyflwyno heriau ychwanegol pan yn ceisio cael gafael ar gymorth. Gallai goroeswyr trais neu gamdriniaeth oedi cyn gofyn am gymorth oherwydd ofn cael eu barnu, neu’n seiliedig ar y gamdybiaeth nad oes cymorth ar gael iddynt.
Gyda Byw Heb Ofn, mae cymorth yno bob amser os oes ei angen arnoch. Mae’r llinell gymorth yn agored i bawb, beth bynnag eu rhywedd neu rywioldeb.
Stori Connor*
Roedd Connor a’i gariad wedi bod gyda’i gilydd am dair blynedd. Dechreuodd y gamdriniaeth gyda galw enwau ond gwaethygodd yn ddramatig i gamdriniaeth gorfforol. Byddai ei bartner yn aml yn llosgi eiddo Connor o’i flaen, ac ar ddau achlysur fe dagodd e Connor. Roedd Connor bob tro ofn yr hyn y gallai ei bartner ei wneud nesaf.
Ar un achlysur, wrth ddychwelyd o wyliau gyda’i gilydd, dechreuodd ei bartner chwalu’r tŷ a rhedeg ar ôl Connor gyda bat pêl-fas. Galwodd Connor yr heddlu, a cafodd ei bartner ei symud o’r tŷ a’i gyhuddo. Yn y misoedd i ddilyn mae Connor yn cofio nad oedd yn teimlo fel fe ei hun o gwbl, hyd yn oed ar ôl i’w bartner gael ei symud. Roedd y gamdriniaeth wedi gadael ei hôl. Pan alwodd Connor linell gymorth Byw Heb Ofn am gyngor, roedd yn teimlo’n ofnus o hyd.
Dywedodd Byw Heb Ofn wrtho ei bod yn iawn i ofidio, ac nad oes neb yn haeddu cael ei drin yn y ffordd yma. Dyma nhw yn ei ddilysu a rhoi gwybod iddo bod cymorth ar gael bob amser.
Gyda’i gilydd fe wnaethant drafod rhaglenni a allai helpu i ailadeiladu ei hyder fel y Dyn Project a llinellau cyngor Men’s Advice Line.
Stori Sarah*
Defnyddiodd Sarah wasanaeth sgwrsio byw Byw Heb Ofn oherwydd ei bod yn bryderus bod ei mam oedrannus yn cael ei cham-drin gan ei chyn-gariad.
Roedd ei mam wedi gorffen y berthynas ddwy flynedd yn ôl, ond roedd ei chyn-gariad wedi gwrthod gadael.
Roedd Sarah wedi sylwi bod ei mam yn mynd yn fregus, yn dawedog, ac wedi’i hynysu oddi wrth deulu a ffrindiau. Roedd hi wedi byw yn ei chartref am ddeugain mlynedd heb broblemau ond yn sydyn, roedd wedi dechrau cael trafferth wrth dalu rhent a biliau trydan.
Roedd ei chyn-gariad wedi torri’r rhan fwyaf o bobl ym mywyd mam Sarah i ffwrdd, gan reoli pwy roedd hi’n eu gweld ac yn checio ei ffôn. Roedd Sarah yn poeni pe bai hi’n mynd at yr heddlu, y gallai ei mam bellhau oddi wrthi hithau hefyd.
Cynigiodd Byw Heb Ofn gymorth emosiynol i Sarah, gan roi gwybod iddi ei bod yn anodd gweld rhywun rydych yn caru yn profi camdriniaeth. Fe wnaethant drafod ei opsiynau gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau cam-drin domestig lleol.
Fe wnaethant ystyried ffyrdd y gallai Sarah fod yno i gynnig cymorth i’w mam pan oedd ei angen arni – weithiau mae bod yno yn unig yn ddigon.
—-
Mae camdriniaeth yn gallu digwydd mewn unrhyw berthynas.
Fel Connor* a mam Sarah*, mae pawb yn haeddu byw eu bywyd dilys yn rhydd rhag camdriniaeth neu drais.
Siaradwch â Byw Heb Ofn am gymorth a chyngor cyfrinachol am ddim 24/7.
Ffoniwch 0808 80 10 800
Tecstiwch0786 007 7333
E-bostiwch [email protected]
Ewch i www.gov.wales/livefearfree
*Mae enwau a manylion allweddol wedi eu newid rhag i’r ddau alwr gael eu hadnabod.