Yn 2020, ffurfiwyd y Grŵp Gweithredol Cymru Gyfan ar Ferched sydd wedi profi Camfanteisio’n Rhywiol. Nod y grŵp yw eirioli dros yr holl oroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar oedolion; fodd bynnag, rydym ni’n fwriadol ynglŷn â defnyddio iaith â rhywedd gan ein bod ni’n cydnabod bod camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yn cael ei brofi ran amlaf o lawer gan ferched.
Mae’r grŵp yn ffodus i gael aelodaeth amrywiol ac yn gosod arbenigedd goroeswyr sydd â phrofiad byw a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi wrth wraidd y gwaith a wnawn.
Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys Cynghorwyr Thrais Rhywiol yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Cenedlaethol a Rhanbarthol, cynrychiolwyr o wasanaethau’r Heddlu ledled Cymru, y Gwasanaeth Prawf, yn ogystal â gwasanaethau statudol a thrydydd sector arbenigol sy’n cefnogi goroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yn uniongyrchol (ASE).
Mae’r grŵp wedi ymrwymo i weithio ar y cyd i eiriol dros gydnabod camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yn ehangach a buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n seiliedig ar drawma i bob goroeswr o’r math hwn o gam-drin.
Egwyddorion y Grŵp Gweithredol:
- Canolbwyntio ar ddull croestoriadol, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Mae camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yn fath o drais ar sail rhywedd sydd wedi’i wreiddio mewn anghydraddoldeb rhywedd a strwythurol, yn ogystal â ffactorau economaidd-gymdeithasol fel tlodi a digartrefedd.
- Dylid diffinio camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yn y gyfraith yn y DU a rhaid iddo fod yn rhan o’r polisïau a’r strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â VAWDASV.
- Ni ddylai unrhyw ferch gael ei throseddu am werthu rhyw, ac ni ddylai unrhyw ferch gael ei throseddu am brofi camfanteisio’n rhywiol.
- Dylai’r rhai sy’n gorfodi ac yn camfanteisio ar ferched i werthu rhyw, a’r rhai sy’n cam-drin merched sy’n gwerthu rhyw gael eu troseddoli.
- Cydnabod y cysylltiad rhwng camfanteisio’n rhywiol ar blant a chamfanteisio’n rhywiol ar oedolion – nid yw camfanteisio yn dod yn gydsyniol pan fydd rhywun yn troi’n 18 mlwydd oed.
Gwaith y grŵp:
Mae’r grŵp wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth, llywio polisi cyhoeddus a rhannu arfer da.
Ers ei sefydlu, mae’r grŵp wedi cyflawni nifer o lwyddiannau allweddol:
- Mae’r grŵp wedi cynnal dau ddigwyddiad dysgu, gan ganolbwyntio ar brofiadau goroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar oedolion yng Nghymru.
- Mae’r grŵp wedi cyflwyno i Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Drais yn erbyn Menywod a Merched i drafod dull system gyfan o fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar oedolion.
- Yn 2022, cafodd camfanteisio’n rhywiol ei gynnwys yn Strategaeth Genedlaethol VAWDASV Cymru am y tro cyntaf.
- Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Oedolion wedi’i gynnwys mewn nifer o Strategaethau VAWDASV rhanbarthol, gydag ymgynghoriad gan y grŵp gweithredol.
- Yn 2023, cyhoeddodd Grŵp Gweithredol Cymru Gyfan adroddiad yn archwilio’r hyn mae asiantaethau data yn ei gasglu ynghylch camfanteisio’n rhywiol ar blant ac oedolion yng Nghymru a sut mae goroeswyr yn cael eu hasesu a’u cyfeirio at gefnogaeth.
- Cyhoeddodd y grŵp ymateb i ganllawiau diweddaraf Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar waith rhyw.
- Mynychodd cynrychiolwyr o’r grŵp banel gyda chynrychiolwyr o’r Sector VAWDASV yn Awstralia, i rannu dysgu, arfer da, a gwaith y grŵp.
Os hoffech wybod mwy am waith y grŵp, anfonwch neges atom gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt isod: