Yn eich perthnasau gyda phartneriaid, ffrindiau neu deulu, dylech deimlo:
- cariad,
- ymddiriedaeth,
- diogelwch,
- parch,
- yn rhydd i fod yn chi eich hun,
- yn rhydd i wneud eich penderfyniadau eich hun.
Ni ddylech:
- Deimlo gorfodaeth neu bwysau i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.
- Deimlo pwysau gan eich partner, ffrind neu aelod o’r teulu i wneud y canlynol:
- Gwerthu rhyw ar y stryd, mewn parlyrau neu ar-lein.
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ar-lein, er enghraifft creu cyfrif OnlyFans.
- Teimlo pwysau gan rhywun i gael rhyw gyda nhw neu rywun arall, i’w talu’n ôl am fenthyciadau, llety neu gymwynasau eraill maen nhw wedi’u gwneud i chi.
- Ni ddylech chwaith deimlo bod rhaid i chi gyfnewid rhyw er mwyn goroesi, er enghraifft, er mwyn talu am hanfodion sylfaenol fel bwyd neu le i aros.
Poeni am rywun arall?
Dyma rai arwyddion y gallai rhywun fod yn profi camfanteisio’n rhywiol ar oedolyn:
- Maen nhw’n ymddangos yn ochelgar, yng nghwmni rhywun, neu mae eu symudiadau’n cael eu cyfyngu.
- Dangos arwyddion o gam-drin corfforol, fel llosgiadau sigarét, cleisiau neu gyflyrau meddygol heb eu trin.
- Ddim yn cael cadw arian maen nhw’n ei wneud, neu’n cael mynediad cyfyngedig i’r arian hwn.
- Dangos tystiolaeth o gael eu gorfodi, eu brawychu neu eu gwthio i ddarparu gwasanaethau rhywiol.
- Dangos arwyddion o newid mewn ymddygiad ac emosiynau.
- Mynd ar goll yn aml.
- Derbyn rhoddion neu gymwynasau (e.e. lifftiau neu lety am y noson).
- Bod â ‘chariad’/’ffrind’ hŷn neu gyfoethog neu berthnasau ag anghydbwysedd pŵer clir (h.y. gwahaniaethau llwyr o ran cefndir / amgylchiadau cymdeithasol).
- Ynysu cymdeithasol – perthnasau gyda theulu neu ffrindiau’n chwalu.
- Mewn gwladolion tramor, meddu ar wybodaeth gyfyngedig o’r Saesneg ar wahân i eirfa rywiol. – Cyfeiriad
- Cysgu/byw yn yr un safle ag y maen nhw’n gweithio.
Beth alla i'i wneud?
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl ar unwaith, dylech gysylltu â’r heddlu ar 999.
Os ydych chi’n poeni eich bod chi’n profi camfanteisio, neu eich bod chi’n poeni am rhywun arall, gallwch estyn allan i’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am gymorth. Gall y llinell gymorth gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol, heb feirniadaeth, ac mae ar gael 24/7.
Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar:
- Ffonio0808 80 10 800
- Neges destun 07860 077333
- E-bost [email protected]
- Sgwrs ar y we https://gov.wales/live-fear-free/domestic-abuse-wales
- Ap Relay UK – Deialwch 18001 cyn rhif y llinell gymorth – 18001 0808 80 10 800. Mae angen lawrlwytho’r Ap Relay UK o App Store iOS ac Android Play Store. Gellir defnyddio’r Ap ar gyfrifiadur/llechen trwy lawrlwytho o’r Siop App Windows.
- VRS Gwasanaeth Cyfnewid Fideo – Gellir lawrlwytho SignLive trwy iOS neu Android. Gellir defnyddio SignLive hefyd ar borwr gwe. Byddai angen i chi sefydlu cyfrif ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Gallwch edrych yn y cyfeiriadur ar gyfer y llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ drwy ddefnyddio’r geiriau allweddol – ‘heb ofn’, ‘cam-drin’, ‘help’, ‘llinell gymorth’, ‘trais’, ‘ofn’, ‘byw heb ofn’.

Ein Hymateb i gamfanteisio’n rhywiol ar oedolion:
Mewn ymateb i adroddiadau cynyddol o ferched yn profi camfanteisio yn ystod pandemig Covid-19, yn 2020 ffurfiodd Cymorth i Ferched Cymru grŵp Gweithredu Cymru Gyfan ar Ferched sydd wedi profi Camfanteisio’n Rhywiol. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i eiriol dros holl oroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar oedolion.