Her y Nadolig 2022 The Big Give: Un Rhodd, Dwywaith yr Effaith – Cadwch y dyddiad!

Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, mae Cymorth i Ferched wedi’i dewis i gymryd rhan yn Her y Nadolig 2022 The Big Give, gan ddechrau am 12pm ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd a gorffen am 12pm ar ddydd Mawrth 6 Rhagfyr.

Cyfrannwch o 12pm ar 29 Tachwedd i gael dyblu eich rhodd!

Dydd Mawrth 29 Tachwedd yw Dydd Mawrth Rhoi, sef diwrnod byd-eang sy’n annog pobl i wneud pethau da ac i roi yn ôl ym mha bynnag ffordd y gallan nhw.

Mae hefyd yn ddechrau Her y Nadolig The Big Give, sy’n digwydd yn union yng nghanol ymgyrch arall rydyn ni’n cymryd rhan ynddi sef ymgyrch fyd-eang 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar Sail Rhywedd.

Thema fyd-eang ymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu eleni yw ‘UNWCH! Gweithredu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched’, a byddwn ni’n rhannu’r holl waith rydyn ni wedi’i wneud yn Cymorth i Ferched Cymru i roi diwedd ar y trais hwn ac annog mwy o weithredu i’n helpu ni gyda’r genhadaeth hon.

Fe allwch chi helpu drwy roi beth bynnag y gallwch chi i ymgyrch The Big Give. Drwy roi rhodd ffeministaidd ychydig yn gynnar y Nadolig hwn, bydd eich rhodd yn cael ei dyblu, ac fe fydd eich cefnogaeth i’n Rhwydwaith Goroeswyr yn mynd ymhellach fyth.

Fe fydd pob ceiniog sy’n cael ei chodi yn yr ymgyrch yn caniatáu inni wetihio gyda’n Rhwydwaith Goroeswyr a’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau – mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwnnw ar ein gwefan. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel yn eu cymunedau, ac mae eu lles yn allweddol, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n gallu codi arian ac ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn a sicrhau bod cyfleoedd i hybu lles pawb.

Mae’r ymgyrch hon yn bosib diolch i’n cyllidwyr arian cyfatebol hael: Swansea Unite (y gangen ynni a gwasanaethau) a Monday Charitable Trust. Diolch iddyn nhw mae gennyn ni swm enfawr o £5,000 mewn cronfeydd arian cyfatebol ar gael. Mae hynny’n golygu am bob £10 y byddwch chi’n ei roi, byddwn ni’n derbyn £20!

Rydyn ni wedi bod yn brysur yn cydgynhyrchu rhai fideos a lluniau ymgyrchu gyda’r Rhwydwaith Goroeswyr, gyda’r fideos yn gyfle iddyn nhw rannu’u profiadau o fod yn rhan o’r Rhwydwaith a’r hyn mae lles yn ei olygu iddyn nhw fel goroeswyr. Byddwn ni’n rhannu’r rhain drwy gydol ein hymgyrch – felly cadwch lygad barcud ar ein gwefannau cymdeithasol!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan a’n tudalen ymgyrchu lle y byddwch chi’n gallu gwneud rhodd (cadwch lygad ar pryd y bydd yn mynd yn fyw am 12pm ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd).

Sut i gymryd rhan

Mae wythnos yr ymgyrch yn rhedeg o ganol dydd ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd, sy’n Ddydd Mawrth Rhoi, Diwrnod Rhoi Byd-eang, tan ganol dydd ar ddydd Mawrth 6 Rhagfyr, a chaiff unrhyw roddion yn ystod y cyfnod hwn eu dyblu tra bod ein cronfeydd arian cyfatebol yn para.

Gwnewch rodd pan fydd ein hymgyrch yn mynd yn fyw

Dim ond rhoddion sy’n cael eu gwneud i’n tudalen ymgyrchu rhwng 12pm ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd a chanol dydd ar ddydd Mawrth 6 Rhagfyr a fydd yn cyfrif tuag at ein targed ac yn cael eu dyblu. Felly gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda eich bod yn gwneud rhodd drwy’r dolenni sy’n cael eu rhannu yn unig, ac erbyn y dyddiad cau, er mwyn i’ch rhodd gael ei dyblu!

Rhannwch ein hymgyrch

Ffordd wych o gymryd rhan yn ein hymgyrch yw drwy siarad amdani gyda’ch ffrindiau, teuluoedd, cydweithwyr, ac unrhyw un arall y gallwch chi feddwl amdano! Mae rhannu ein hymgyrch, yn enwedig ein fideo ymgyrchu a’n tudalen ymgyrchu (pan fyddan nhw’n mynd yn fyw ar 29/11!) ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bost, yn ffordd wych o gymryd rhan yn rhithiol. I ddechrau, gallwch chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr i gefnogwyr a chysylltu gyda ni ar Instagram, Facebook, Twitter a LinkedIn fel nad ydych chi’n colli unrhyw ddiweddariad pwysig.

Gwnewch e eich ffordd chi!

Rydyn ni’n fwy na pharod i gynnig cymorth i unrhyw un sydd am drefnu eu digwyddiad codi arian eu hunain gyda rhoddion yn mynd i ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru drwy ein tudalen ymgyrchu. Gallech chi drefnu diwrnod gwisgo siwmper Nadolig, trefnu bore coffi neu hyd yn oed gynnal arwerthiant cacennau o ddechrau’r ymgyrch tan 12pm ar ddydd Mawrth 6 Rhagfyr. Bydd angen rhoi unrhyw arian sydd wedi’i godi drwy ein tudalen ymgyrchu rhwng 29 Tachwedd a 12pm ar 6 Rhagfyr, cyn i’r dudalen gau. Felly cysylltwch â’r tîm codi arian os gwelwch chi’n dda os ydych chi’n cynllunio codi arian  – ni fydd unrhyw beth sydd wedi’i godi drwy JustGiving, neu ein Hyb Codi Arian, yn cyfrif!

Bydd yr holl arain sy’n cael ei godi yn Her y Nadolig The Big Give yn mynd tuag at gefnogi ein Rhwydwaith Goroeswyr a’u lles. Helpwch ni i gefnogi mwy o oroeswyr a gwella lles ein Rhwydwaith Goroeswyr.