Heddiw, rydyn ni wrth ein bodd yn lansio ‘Dw i’n Oroeswr Hefyd’.
O dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, mae plant bellach yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae’r prosiect codi ymwybyddiaeth hwn wedi creu fideo i rannnu gwir effaith cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc.
Crëwyd y fideo oherwydd bod bwlch yn yr adnoddau presennol sydd ar gael i helpu plant a phobl ifanc i ddeall yr hyn maen nhw wedi’i brofi. Yn aml, rydyn ni’n clywed lleisiau oedolion yn mynegi eu barn am yr hyn y gallai plant fod wedi’i brofi. Ond lluniwyd y fideo hwn drwy ddefnyddio gwybodaeth a rennir ar y cyd gan weithwyr proffesiynol rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â barn a theimladau plant a phobl ifanc eu hunain. Datblygwyd sgript o ddatganiadau yn rhannu meddyliau a theimladau, a chrëwyd darluniau gwreiddiol wedi’u hanimeiddio i gyd-fynd â hyn. Ychwanegwyd cerddoriaeth gefndir dyner, sy’n codi’r naws yn raddol, i gynrychioli’r daith y mae plant a phobl ifanc yn mynd drwyddi. Roedd lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc wrth galon y neges a gyflëir drwy’r fideo.
Mae’r fideo hwn wedi’i greu ar gyfer plant a phobl ifanc a allai adnabod eu profiadau eu hunain ynddo, yn ogystal â theuluoedd, addysgwyr, gweithwyr cymorth, a’r gymuned ehangach. Ei nod yw helpu pobl i ddeall bod plant yn cael eu heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd gartref, a gwneud iddynt deimlo eu bod nhw’n cael eu clywed a’u credu, ac annog y rhai sydd angen help i estyn allan. Roeddem am i bob plentyn deimlo eu bod nhw’n cael eu cynrychioli, ac nad hunaniaeth y drwgweithredwr oedd y prif ffocws. Y neges i blant a phobl ifanc yw bod cymorth ar gael i’w helpu i ddeall yr hyn sydd wedi digwydd iddynt. Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael cynnig cymorth diogel, heb feirniadaeth, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny gan ddarparwyr arbenigol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, er mwyn eu helpu ar eu taith tuag at adferiad.
Diolch arbennig i James Ronan, animeiddiwr a chrëwr y fideo, ac Ali White, Cydlynydd Marchnata a Dylunio Digidol Cymorth i Ferched Cymru, sydd wedi bod yn ffynhonnell arweiniad ac ysbrydoliaeth wrth ddatblygu’r prosiect hwn. Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i Ted, Anya, Rhun ac Elinor am greu’r troslais ar gyfer y fideo – rydych chi wir wedi helpu i ddod â’r fideo’n fyw ac i gyffwrdd â chalonnau pawb a fydd yn ei wylio.
*Rhybudd Sbarduno: Mae’r fideo hwn yn trafod cam-drin domestig.*