Cymorth i Ferched Cymru yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod.
Rydym ni’n ffederasiwn o sefydliadau arbenigol yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau achub bywyd i oroeswyr trais a chamdriniaeth ac sy’n darparu ystod o wasanaethau ataliol arloesol o fewn cymunedau lleol.
Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar sicrhau bod profiadau ac anghenion goroeswyr wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud.
Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran llunio ymatebion ac arferion cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru ers i ni gael ein sefydlu yn 1978. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ymgyrchu am newid a thrwy ddarparu cyngor, gwasanaeth ymgynghori, cymorth a hyfforddiant i sicrhau gwelliannau polisi a gwasanaethau i oroeswyr, teuluoedd a chymunedau.
Rydym ni’n darparu gwasanaethau gan gynnwys Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol.
Rydym ni hefyd yn darparu Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol (NQSS), fframwaith achredu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru (wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru) a’r prosiect Newid sy’n Para; dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac sydd wedi’i arwain gan anghenion sy’n cefnogi goroeswyr pob math o drais yn erbyn menywod, a’u plant, i feithrin gwydnwch, gan arwain at annibyniaeth.