Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol (NQSS)

 

Mae Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol (NQSS) Cymorth i Ferched Cymru yn gyfres o feini prawf achrededig ar gyfer gwasanaethau arbenigol penodedig sy’n mynd i’r afael â cham-drin domestig. Maen nhw’n galluogi’r gwasanaethau hyn i ddangos tystiolaeth o’u hansawdd a’u heffaith. Gan ymgorffori egwyddorion cyfranogi, llywodraethu tryloyw a darparu gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan anghenion, maen nhw’n nodi safon y ddarpariaeth o wasanaethau sydd ei hangen ar gyfer goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. Ar gyfer cyllidwyr a chomisiynwyr gwasanaethau arbenigol, mae’r Safonau yn gweithredu fel mecanwaith sicrhau ansawdd grymus ac annibynnol. Maen nhw’n cynnwys meincnodau clir ar gyfer sut olwg y gall fod, ac y dylai fod, ar wasanaethau arbenigol holistaidd o answadd uchel, sydd wedi’u harwain gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau, ac sy’n ymateb i rywedd.

Mae’r Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni deddfwriaeth a chyfarwyddyd allweddol mewn perthynas ag ymateb yn effeithiol i gam-drin domestig. Maen nhw wedi eu mapio yn erbyn, er enghraifft, ganllawiau statudol Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a’r fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Maen nhw hefyd yn ystyried dulliau strategol, sydd heb eu datganoli, gan y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ogystal â’r UE a safonau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar gyfer darpariaeth gwasanaethau ataliol, gwarchodol a chefnogol.

Yn 2022, wedi cysoni’r Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol a’r broses asesu gysylltiedig i gydymffurfio â’r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor (IAQF), derbyniodd Cymorth i Ferched Cymru statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru. O ganlyniad, bydd gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol sy’n gwneud cais am Marc Ansawdd NQSS Cymorth i Ferched Cymru, ac sy’n ei ennill yn y pendraw, wedi dangos eu bod hefyd yn bodloni’r meini prawf i ennill Marc Ansawdd IAQF ar yr un pryd.

Cwestiynau Cyffredin